NAACP

Pedwar o arweinwyr NAACP yn ymgyrchu ym Mississippi yn 1956.

Mudiad hawliau sifil yw y National Association for the Advancement of Colored People (NAACP), a sefydlwyd i ddod ag arwahanu i ben yn yr Unol Daleithiau a dangos i'r bobl dduon eu bod yn cael eu trin yn anghyfiawn.

Roedd y NAACP yn defnyddio grym moesol sef drwy weithio yn gyfreithlon ag yn ddi-drais. Yn y flwyddyn 1919 cofnodwyd bod ganddynt dros 91,000 o aelodau ond yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cynyddodd eu niferoedd i 450,000 o aelodau. Roeddent yn codi ymwybyddiaeth ymysg y pobl ddu bod angen gwelliannau yn eu statws a'u hawliau sifil.

Sefydlu

Sefydlwyd NAACP ar 12 Chwefror, 1909 gan grŵp o bobl gwahanol iawn gan gynnwys: Du Bois, Ida B. Wells, Archibald Grimké, Henry Moscowitz, Mary White Ovington, Oswald Garrison Villard, William English Walling (a oedd ei hun o deulu a fu'n cadw caethweision),[1] a Florence Kelley, cyfaill Du Bois.[2]

Cyfeiriadau

  1. [1] Archifwyd 2014-01-04 yn y Peiriant Wayback William English Walling
  2. Kathryn Kish Sklar, "Florence Kelley", Women Building Chicago, 1790-1990: A Biographical Dictionary, Rima Lunin Schultz and Adele Hast, eds., Gwasg Prifysgol Indiana, Bloomington, Indiana, 2001, tud. 463

Dolenni allanol

Gweler hefyd

Ku Klux Klan

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!