Cyffur seicedelig lled-synthetig yw LSD neu Asid Lysergig Diethylamid (Saesneg: Lysergic acid diethylamide), a adnabyddir hefyd fel lysergide (INN) ac yn gyffredinol fel asid (acid), sy'n perthyn i'r teulu ergolin ac sy'n adnabyddus am ei effeithiau seicolegol yn cynnwys newid synnwyr amser a chael profiadau rhithweledigaethol ac ysbrydol, ac a chwaraeodd ran fawr yn niwylliant amgen y 1960au.