Nwy di-liw yw nitrogen. Mae'n elfen gemegol yn y tabl cyfnodol a chaiff ei gynrychioli gan y symbol N a'r rhif atomig 7. Mae nitrogen yn nwy cyffredin iawn, ac yn ffurfio rhan sylweddol o'r atmosffer (78% o aer sych).
Ffurf elfennol
Mae nitrogen yn bodoli ar ffurf nwy o foleciwlau deuatomig, N2 ar TGS (pwynt berwi -196 C). Mae'r rhain yn anadweithiol iawn, gan bod ganddynt bond triphlyg rhyngddynt. Mae angen llawer o ynni i'w dorri, sy'n gweud ynni actifadu unrhyw adwaith yn uchel iawn.
Y gylchred nitrogen (o'r gair 'cylch') yw'r gylched bioddaeargemegol pan gaiff y nwy nitrogen ei drawsnewid i wahanol ffurfiau sy'n ddefnyddiol mewn prosesau cemegol. Gall y trawsnewid hwn ddigwydd mewn prosesau ffisegol a biolegol.
Mewn organebau byw, defnyddiwyd nitrogen i wneud proteinau.
Mae'r aer yn 79% nitrogen.
Ni all anifeiliaid a phlanhigion ddefnyddio nitrogen sydd ar ffurf nwy.
Er mwyn i blanhigion ddefnyddio nitrogen, mae angen troi'r nwy yn nitradau.