Mae cyfeiriadau yn Llyfr Sant Chad, a elwid yn wreiddiol yn "Llyfr Teilo" yn ôl pob tebyg, yn profi ei fod yn cael ei anrhydeddu yn ne-orllewin Cymru yn yr 8fed a'r 9g. Mae Buchedd Teilo yn Llyfr Llandaf yn dyddio o'r 12g.
Prif sefydliad Teilo oedd y clas yn Llandeilo Fawr yn Sir Gaerfyrddin. Dywedir mai ef a sefydlodd y clas gwreiddiol ar safle Eglwys Gadeiriol Llandaf, ac mae nifer sylweddol o eglwysi eraill yn ne Cymru wedi eu cysegru iddo. Yn ôl traddodiad, bu'n pregethu yn Llydaw hefyd, ac mae nifer o enwau lleoledd yno yn cyfeirio ato. Ei ddydd gŵyl yw 9 Chwefror.