Tîm pêl-droed Olympaidd Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yw'r tîm dynion sydd yn cynrychioli'r Deyrnas Unedig yng Ngemau Olympaidd yr Haf. Nid yw'r tîm yn aelod o FIFA; tîm ar gyfer y gemau Olympaidd yn unig ydyw.
Yn dilyn creu Cwpan Byd FIFA cytunwyd y byddai pêl-droed Olympaidd yn gyfyngedig i chwaraewyr amaturaidd yn unig. Erbyn gemau 1992 gallai timau gynnwys chwaraewyr proffesiynol - dim ond iddynt fod o dan 23 mlwydd oed a gallai 3 chwaraewr fod yn hŷn. Er hynny nid yw Prydain Fawr wedi cael ei chynrychioli yn y gemau ers 1960.
Gemau 2012
Yn dilyn llwyddiant y cais i gael y gemau i ddod i Lundain roedd hawl gan y Deyrnas Unedig i gystadlu yn y twrnamaint pêl-droed. Gwnaeth BOA sef y gymdeithas Olympaidd Brydeinig gyhoeddi ar unwaith ei bod am gystadlu, ond gwnaeth cymdeithas pêl-droed yr Alban wrthod hyd yn oed fynychu'r cyfarfodydd oedd yn trafod y posibiliadau ac fe wnaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru dynnu allan o'r trafodaethau.
Gwnaeth y Gymdeithas Pêl-droed Wyddelig a oedd yn cynrychioli Gogledd Iwerddon ddatgan yn 2007 na fyddent yn cefnogi tîm unedig. O ganlyniad, dim ond Cymdeithas pêl-droed Lloegr oedd yn barod i gymryd rhan. Gwraidd y gwrthwynebiad oedd yr ofn y byddai'r cenhedloedd cartref - Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru - yn colli'r hawl i chwarae fel unedau unigol, ac yn cael eu gorfodi i fod yn rhan o dîm unedig Prydeinig.
Y sgwad llawn
The Great Britain squad for the 2012 Olympic Games was announced on 2 July 2012, with Ryan Giggs named as captain.[3]
Cyfeiriadau