Cyn troi'n bêl-droediwr proffesiynol, bu'n gweithio fel barman yn casglu gwydrau mewn tafarn a chwarae i'w dim lleol: Rochdale St Clements.[1] Cychwynodd ei yrfa bêl-droed yn chwarae i Radcliffe Borough F.C yng nghanol y tymor 2007-8, a daeth i chwarae i'r tim cyntaf o fewn dim. Yn ei ddau dymor cyntaf cafodd 95 gêm a 15 gôl.[2] Arwyddodd i'w glwb lleol (Rochdale) yn Chwefror 2009 ar gytundeb o ddwy flynedd.[3]