Pêl-droediwr Cymreig yw Aaron James Ramsey (ganwyd 26 Rhagfyr 1990) sy'n chwarae i Dinas Caerdydd yn yr EFL Championship a thîm Cenedlaethol Cymru.
Dechreuodd Ramsey ei yrfa broffesiynol gyda Dinas Caerdydd. Ymunodd â'r clwb yn wyth mlwydd oed ar ôl denu sylw sgowtiaid y clwb mewn cystadleuaeth bêl-droed a drefnwyd gan yr Urdd yng Nghaerdydd[3]. Llwyddodd i dorri record John Toshack fel y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae i dîm cyntaf Caerdydd ym mis Ebrill 2007 pan yn 16 mlynedd a 124 o ddyddiau oed[4].
Symudodd i Arsenal F.C. yn 2008 am ffi o £5 miliwn[5]. Enillodd wobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2009 a 2010.[6]
Ar 11 Chwefror 2019 arwyddodd i glwb Juventus ar gytundeb o bedair blynedd, ac ymunodd yn swyddogol ar 1 Gorffennaf 2019.
Cyfeiriadau