Surop

Hylif trwchus a melys yw surop a wneir trwy hydoddi siwgr mewn dŵr berw. Yn y gegin caiff ei flasu â'i roi ar fwyd, yn enwedig pwdinau a bwydydd melys, neu ei

Surop

Hylif trwchus a melys yw surop a wneir trwy hydoddi siwgr mewn dŵr berw. Yn y gegin caiff ei flasu â'i roi ar fwyd, yn enwedig pwdinau a bwydydd melys, neu ei ddefnyddio i gadw bwyd, gan amlaf ffrwythau. Weithiau defnyddir surop â moddion ynddo i drin peswch er enghraifft. Gall surop hefyd gyfeirio at sudd crynodedig ffrwyth neu blanhigyn.

Coginiaeth

Surop masarn ar grempogau. Gellir hefyd arllwys surop masarn dros wafflau ac hufen iâ.

Daw suropau coginio gan amlaf o rawn, ffrwythau, neu sudd planhigion a choed. Gellir arllwys surop dros fwyd, yn enwedig suropau persawrus megis surop masarn, neu ei ddefnyddio fel cynhwysyn. Cynhwysyn melys yw surop a ddefnyddir gyda siwgr, neu yn ei le. Mewn cacen goch, er enghraifft, mae surop yn rhoi iddi ansawdd llaith a thrwchus. Mewn fflapjacs, mae surop yn pobi â siwgr, menyn a cheirch i greu cymysgedd sy'n debyg i doffi. Coginir fflapjacs am gyfnod byr i'w gwneud yn gnoadwy, neu'n hirach i'w gwneud yn galed.[1]

Gwneir triagl (neu driog) trwy goethi siwgr o'r gansen. Mae gan y surop trwchus a thywyll a elwir yn driagl du flas chwerw yn debyg i licris.[2] Ceir math arall o driagl, yn drwchus ond yn felyn-aur ei liw ac â blas melys iawn, o'r enw triagl melyn. Gellir ei arllwys dros fwydydd neu ei ddefnyddio mewn cymysgeddau teisenni a bisgedi, ac i wneud sawsiau megis menyn caramel.[3]

Daw surop corn o flawd corn, a chanddo flas sydd fymryn yn felys.[3] Cynhyrchir surop masarn yng Nghanada a gogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau trwy dapio'r fasarnen am ei sudd, a'i ferwi gan adael surop. Gwneir surop palmwydd, sy'n boblogaidd yn y Dwyrain Canol, India, a De America, drwy broses debyg. Rhoddir surop palmwydd mewn siytni yn ogystal â theisenni a bisgedi. Un o'r suropau mwyaf cyffredin a ddaw o rawn yw surop heiddfrag a gynhyrchir drwy fragu grawn haidd a'u berwi i greu'r surop tewychedig. Mae ganddo flas brag arbennig, ac fe'i gymysgir ag ysgytlaethau a diodydd poeth yn ogystal â bwydydd melys.[2]

Ceir hefyd "suropau bar" i wneud diodydd cymysg a choctels. Gwneir surop siwgr syml trwy hydoddi siwgr mewn dŵr (yn aml dwy ran o siwgr i un ran o ddŵr),[4] a'i ychwanegu at ddiodydd i'w melysu.[5] Surop di-alcoholig yw grenadin a wneir o bomgranad, ac fe'i ddefnyddir i liwio coctels a rhoi iddynt flas melys.[6][7]

Meddyginiaeth

Potel o surop meddyginiaethol i drin peswch. Mae cwpan bach ar gaead y botel i fesur y dos.

Toddiad o siwgr, yn aml swcros, mewn dŵr a ddefnyddir i gludo moddion trwy'r geg yw surop meddyginiaethol.[8] Mae melysrwydd y hylif yn ei wneud yn haws i gleifion, yn enwedig plant, i lyncu'r moddion. Yn aml daw moddion dros y cownter i leddfu peswch ar ffurf surop, ond er ei fod yn boblogaidd iawn, nid oes tystiolaeth ddigonol bod y math hwn o feddyginiaeth yn effeithiol.[9]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Good Housekeeping Food Encyclopedia (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 412.
  2. 2.0 2.1 Food Encyclopedia, t. 411.
  3. 3.0 3.1 Food Encyclopedia, t. 410.
  4. The Bartender's Book (Caerfaddon, Parragon, 2008), t. 77.
  5. Halley, Ned. The Wordsworth Ultimate Cocktail Book (Ware, Wordsworth, 1998), tt. 295–6.
  6. Halley, t. 293.
  7. The Bartender's Book, t. 61.
  8. (Saesneg) syrup. medical-dictionary.thefreedictionary.com. Adalwyd ar 27 Awst 2012.
  9. Smith SM, Schroeder K, Fahey T (2008). Smith, Susan M. ed. "Over-the-counter medications for acute cough in children and adults in ambulatory settings". Cochrane Database Syst Rev (1): CD001831. doi:10.1002/14651858.CD001831.pub3. PMID 18253996.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.