Sir GaernarfonMath o gyfrwng | Etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig |
---|
Daeth i ben | 3 Chwefror 1950 |
---|
Dechrau/Sefydlu | 14 Rhagfyr 1918 |
---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
---|
Rhanbarth | Cymru |
---|
Roedd etholaeth Sir Gaernarfon yn ethol aelodau i senedd San Steffan o 1542 hyd 1950 pan ddiddymwyd yr etholaeth.
Hanes
O dan y Deddfau Uno roedd gan bob Sir yng Nghymru (ac eithrio Sir Feirionnydd) yr hawl i ddanfon dau Aelod Seneddol i San Steffan, un ar gyfer y Sir ac un ar gyfer y Bwrdeistrefi. Roedd Sir Gaernarfon yn cynrychioli'r bobl a oedd yn byw y tu allan i fwrdeistrefi tref Caernarfon, Conwy, Cricieth, Nefyn a Phwllheli ac o 1832 Bangor.
Cyn diwygio'r etholfraint ym 1832 roedd etholaeth Sir Gaernarfon yn cael ei hystyried yn un "dan ddylanwad" teulu Paget Marcwysau Môn.
Er gwaethaf ambell i gamsyniad nid etholaeth Lloyd George oedd Sir Gaernarfon, yr oedd o'n aelod dros y Bwrdeistrefi
Ar gyfer etholiad 1885 holltwyd etholaeth Caernarfon yn ddau gan ffurfio etholaethau Gogledd Sir Gaernarfon a De Sir Gaernarfon ail grëwyd yr etholaeth sirol unigol ar gyfer etholiad 1918.
Dyma'r etholaeth i Blaid Cymru ei hymladd gyntaf erioed. Gwnaed hynny yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1929 yr ymgeisydd oedd Lewis Valentine, Llywydd Cyntaf y Blaid. Cafodd 609 o bleidleisiau sef 1.6% o gyfanswm o 38,043.
Aelodau Seneddol
- 1541 — Syr Richard Bulckeley[1]
- 1547 — Syr John Puleston, bu farw 1552 a'i olynu gan John Wynn ap Hugh
- 1553 (Maw) — John Wynn ap Hugh
- 1553 (Hyd) — Morris Wynn
- 1554 (Ebrill) — Morris Wynn
- 1554 (Tach) — David Lloyd ap Thomas
- 1555 — Syr Rhys Gruffydd
- 1558 — William Wynn Williams
- 1558—1559 — Robert Pugh
- 1563 (Ionawr) — Morris Wynn
- 1571 — John Wynn ap Hugh
- 1572 (Ebrill) — John Gwynne, bu farw 1574 a'i olynu gan William Thomas
- 1584 — William Thomas
- 1586 — John Wynn
- 1588 (Hyd) — Hugh Gwyn Bodvel
- 1593 — William Maurice
- 1597 (Hydref) — William Griffith
- 1601 (Medi) — William Jones
- 1604 — Syr William Maurice
- 1614 — Richard Wynn
- 1621 — John Griffith
- 1624 — Thomas Glynn
- 1625 — Thomas Glynn
- 1626 — John Griffith
- 1628 — John Griffith
- 1640 Ebrill — Thomas Glynn
- 1640 Tachwedd — John Griffith iau — diswyddo 1642
- 1647 — Syr Richard Wynn, 4ydd Barwnig
- 1653 — Heb gynrychiolaeth yn Senedd yr esgyrn sychion
- Blwyddyn—Aelod Cyntaf—Ail Aelod
Dau aelod yn y senedd warchodaeth gyntaf a'r ail senedd warchodaeth
Aelodau ar ôl Deddf Diwigio'r Senedd 1832
Diddymwyd y sedd ym 1885 a'i ail greu ym 1918
Etholiadau Diwrthwynebiad o'r 1830au i'r 1860au
Etholwyd Thomas Assheton Smith (Ceidwadol) yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau 1832 ac 1835.
Etholwyd John Ralph Ormsby-Gore (Ceidwadol) yn ddiwrthwynebiad ym 1837.
Etholwyd Edward George Douglas Pennant (Ceidwadol) yn ddiwrthwynebiad ym 1841, 1847, 1852, 1857, 1859 a 1865.
Dyrchafwyd Edward George Douglas Pennant i Dŷ'r Arglwyddi ar farwolaeth ei dad ym 1866 ac fe'i olynwyd fel AS gan ei fab George Sholto Douglas-Pennant yn ddiwrthwynebiad yn isetholiad 1866, collodd George Douglas-Pennant ei sedd i'r Rhyddfrydwr Love Jones Parry mewn etholiad cystadleuol ym 1868.
Etholiadau yn y 1870au
Etholiadau yn y 1880au
Ym Mis Tachwedd 1880 cafodd Watkin Williams ei ddyrchafu'n farnwr llys a bu'n rhaid iddo ymddiswyddo o'r Senedd. Cynhaliwyd isetholiad ar 2 Rhagfyr 1880:
1885 - 1918
Ar gyfer etholiad 1885 holltwyd etholaeth Caernarfon yn ddau gan ffurfio etholaethau Gogledd Sir Gaernarfon a De Sir Gaernarfon ail grëwyd yr etholaeth sirol unigol ar gyfer etholiad 1918
Etholiadau yn y 1910au
Etholiadau yn y 1920au
Etholiadau yn y 1930au
Etholiadau yn y 1940au
Cyfeiriadau
- ↑ Breese, Edward (1873). Kalendars of Gwynedd (PDF). Llundain: John Camden Hotten. t. 106.
- ↑ James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8
Gweler hefyd