Roedd John Ralph Ormsby-Gore, Barwn 1af Harlech (3 Gorffennaf 1816 – 15 Gorffennaf 1876) yn wleidydd Ceidwadol ac yn Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon a Gogledd Swydd Amwythig.[1]
Bywyd Personol
Ganwyd Ormsby-Gore ym 1816 yn Neuadd Brogyntyn, Swydd Amwythig yn fab i William Gore a Mary Jane Ormsby. Roedd Mary Jane Ormsby yn etifedd ystadau Glyn Cywarch, Clenennau a Brogyntyn, wrth ei phriodi hi newidiodd William Gore enw'r teulu i Ormsby-Gore. Fe fu William Ormsby-Gore yn AS Bwrdeistrefi Caernarfon a Gogledd Swydd Amwythig.
Cafodd ei addysgu yn Eton a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen[2]
Priododd Sarah merch ieuengaf Syr John Tysson Tyrell ym 1844;[3] bu iddynt un ferch Fanny Mary Katherine.[4]
Gyrfa gyhoeddus
Dechreuodd Ormsby-Gore ar ei yrfa gyhoeddus ym 1837 yn 21 oed pan gafodd ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Gaernarfon. Ym 1841 ildiodd y sedd i Edward Douglas-Pennant.
Ym 1844 fe'i penodwyd yn Ystafellwas i'r Frenhines Victoria gan barhau yn y swydd honno hyd 1859.
Ym 1859 fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ogledd Swydd Amwythig gan ddal y sedd hyd ei ddyrchafu i'r bendefigaeth ym 1876.
Gwasanaethodd fel dirprwy Arglwydd Raglaw Swydd Amwythig ac fel Ynad Heddwch yn Swydd Amwythig a Sir Gaernarfon.
Fe'i crëwyd yn Barwn Harlech o Harlech[5] yn Sir Feirionnydd ar gais y prif weinidog Benjamin Disraeli. Gan nad oedd ganddo etifedd gwrywaidd rhoddwyd y Barwniaeth iddo gyda hawl gweddilliad statudol yn enwi ei frawd William yn etifedd tybiedig.
Marwolaeth
Llai na chwe mis ar ôl ei godi i'r bendefigaeth bu farw'r Arglwydd Harlech yn Nhŷ ei dad yng nghyfraith Boreham House, ger Chelmsford, Essex, lle y bu'n ceisio cyfnod o ymadferiad [6] wedi dioddef cyfres o boenau yn ei frest. Cafodd ei weddillion eu claddu yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Selattyn, ger Croesoswallt.[7]
Gweler hefyd
Darlun o Ormsby Gore yn y Casgliad Frenhinol:
http://www.royalcollection.org.uk/collection/2906769/mr-john-ralph-ormsby-gore-1816-76
Cyfeiriadau
- ↑ Cracroft's Peerage [1] Archifwyd 2019-07-25 yn y Peiriant Wayback adalwyd 9 Chwefror 2015
- ↑ Wrexham Advertiser 17 Gorffennaf 1876 t 5 erthygl "The Death of Lord Harlech"
- ↑ Cambrian - 15 Mehefin 1844 Hysbysiadau Teulu [2] adalwyd 9 Chwefror 2015
- ↑ Y Bywgraffiadur Arlein BULKELEY-OWEN , FANNY MARY KATHERINE ( 1845 - 1927 ), awdures [3] adalwyd 9 Chwefror 2015
- ↑ Llais Y Wlad — 28 Ebrill 1876 t 5 erthygl Beddgelert: Dyrchafiad Arglwydd Harlech [4] adalwyd 9 Chwefror 2015
- ↑ Y Dydd - 23 Mehefin 1876 t1 erthygl Newyddion[5] adalwyd 9 Chwefror 2015
- ↑ Y Dydd - 30 Mehefin 1876 erthygl Newyddion Cymreig [6] adalwyd 9 Chwefror 2015