Goronwy Roberts |
---|
|
Ganwyd | 20 Medi 1913 Bethesda |
---|
Bu farw | 23 Gorffennaf 1981 |
---|
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | gwleidydd |
---|
Swydd | Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Gweinidog dros Fasnach |
---|
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
---|
Gwleidydd ac Aelod Seneddol Llafur Cymreig oedd Goronwy Owen Roberts, Barwn Goronwy-Roberts (20 Medi 1913 – 23 Gorffennaf 1981). Bu'n Aelod Seneddol dros etholaeth Sir Gaernarfon ac yna etholaeth Caernarfon o 1945 hyd 1974.
Roedd yn frodor o Benrhos, Bangor. Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Cymru a Phrifysgol Llundain.
Daeth yn Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon yn 1945, fel olynydd i'r Rhyddfrydwr Goronwy Owen yna o 1950 dros etholaeth Caernarfon. Yn Etholiad Cyffredinol Chwefror 1974, collodd ei sedd i Dafydd Wigley. Yn ystod ei gyfnod yn y Senedd, daliodd nifer o swyddi. Cymerodd ran amlwg yn yr Ymgyrch Senedd i Gymru, ac yn 1957 cyflwynodd ddeiseb yn galw am senedd ddeddfwriaethol etholedig wedi'i harwyddo gan tua 250,000 o bobl i senedd San Steffan.
Gwnaed ef yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi yn 1974 fel "Barwn Goronwy-Roberts", a bu'n is-arweinydd Ty'r Arglwyddi o 1975 hyd 1979.