GwleidyddCymreig ac aelod o Blaid Cymru yw Dafydd Wigley (ganed 1 Ebrill1943), sydd yn uchel ei barch yng Nghymru. Bu'n cynrychioli etholaeth Caernarfon fel Aelod Seneddol yn San Steffan am 27 mlynedd ac yn y Cynulliad rhwng 1999 a 2003. Roedd yn arweinydd Plaid Cymru rhwng 1981 a 1984 ac eto rhwng 1991 a 2000.
Cefndir
Fe'i ganwyd yn unig blentyn yn Derby, Lloegr, ond dychwelodd y teulu i Gymru yn 1946.
Roedd ei fam yn wreiddiol o Bwllheli. Roedd ei mam hithau'n weithgar gyda'r Rhyddfrydwyr a'i thad yn gyfreithiwr ac yn weithgar gyda'r Toriaid. Roedd tad Wigley'n gweithio ym myd llywodraeth leol. Bu yn drysorydd Cyngor Sir Gaernarfon o 1947 tan 1974.
Yn 1967 priododd ag Elinor Bennett Owen. Y flwyddyn honno hefyd yr ymunodd â chwmni Mars; cwmni sy'n enwog am gynhyrchu siocled a melysion. Bu'n reolwr cyllid i Hoover, Merthyr Tudful cyn ei ethol yn aelod seneddol.
Daeth yn Llywydd Plaid Cymru gyntaf yn 1981, yn dilyn ymddeoliad Gwynfor Evans, ond roedd yn rhaid iddo roi'r gorau i'r llywyddiaeth yn 1984 oherwydd cyflwr iechyd ei blant. Daeth yn ôl i'r Llywyddiaeth wedi ymddeoliad Dafydd Elis-Thomas yn 1991 a bu yn y swydd tan y flwyddyn 2000, pan y bu raid iddo roi'r gorau i'w swydd oherwydd afiechyd, er bod ar y pryd gyhuddiadau o gynllwynio yn ei erbyn.
Yn 1994 safodd dros Blaid Cymru ar gyfer Senedd Ewrop