Sinamon

Mae sinamon yn sbeis a geir o risgl mewnol sawl rhywogaeth o goed o'r genws Cinnamomum. Mae'r sinamon mwyaf cyffredin yn dod o'r goeden Asiaidd, Cinnamomum veru

Sinamon
Sinamon
Enghraifft o:cynhwysyn bwyd, cyffir amrwd, meddygaeth lysieuol Edit this on Wikidata
Mathsbeis Edit this on Wikidata
Deunyddrhisgl Edit this on Wikidata
Rhan ocoginiaeth Twrci, coginiaeth Catalwnia Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2000 (yn y Calendr Iwliaidd) CC Edit this on Wikidata
CynnyrchCinnamomum verum, Cinnamomum cassia, Cinnamomum burmanni, Cinnamomum loureiroi, Cinnamomum citriodorum Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0f0ch edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae sinamon yn sbeis a geir o risgl mewnol sawl rhywogaeth o goed o'r genws Cinnamomum. Mae'r sinamon mwyaf cyffredin yn dod o'r goeden Asiaidd, Cinnamomum verum, ac iddi risgl persawrus, sbeis a geir o’r rhisgl hwn yw sinamon (ceir hefyd sinamwn). Defnyddir yr enw canel hefyd yn y Gymraeg sy'n debyg i'r enw mewn nifer o ieithoedd Romáwns.[1][2] Defnyddir y gair sinamon yn ffigurol i ddisgrifio'r lliw melynfrown.[3]

Mae ei flas yn felys ac mae ganddo arogl dwys iawn. Mae'n dod yn wreiddiol o Sri Lanka, er ei fod bellach yn cael ei drin hefyd yn Ne America ac India'r Gorllewin.[4]

Hanes

Ffyn Cinnamomum verum (sinamon ceylon o Sri Lanka), powdr, a blodau

Roedd sinamon eisoes yn bresennol yn niwylliant Tsieina cyn 2700 CC. Cyrhaeddodd Ewrop yn ystod y cyfnod clasurol trwy lwybrau masnach Gwlad Groeg ac Ymerodraeth Rhufain gydag India, Arabia ac Ethiopia.[2] Yn ystod y cyfnod hwn ymgorfforodd yr Eifftiaid canel yn eu defodau crefyddol a'u dulliau o greu mymïaid, ac yn ddiweddarach, roedd hefyd yn bresennol yn defodau crefyddol yr Oesoedd Canol yn Ewrop.[4]

Cyrhaeddodd y fasnach sinamon ei hanterth yn ystod yr oes fodern. Bryd hynny roedd yn cael ei ystyried yn gynnyrch moethus ac achosodd hyn gystadleuaeth fasnachol rhwng sawl ymerodraeth. Bu'r Portiwgaliaid, yr Iseldirwyr a'r Saeson yn ymgiprys i gael monopoli arno ar wahanol gyfnodau, a chredir mai dyna arweiniodd y morwr a'r fforiwr o Bortiwgal, Vasco da Gama, i "ddarganfod" y llwybr i Penrhyn Gobaith Da yn ystod yr 16g er mwyn 'cyrraedd Sri Lanka ac India yn haws o Ewrop.'[4][5]

Sinamon a'r Gymraeg

Mae'r gair "sinamon" yn fenthyciad drwy'r Saesneg sydd, ei hun yn dod o Hen Roegeg κιννάμωμον ("kinnámōmon", yn hwyrach, "κίνναμον": kínnamon), drwy'r iaith Ladin a Ffrangeg Canol. Benthycodd y Groegiaid y gair o iaith y Ffeniciaid, sy'n debyg i'r iaith cytras Hebraeg קנמון, (qinnāmōn).[6]

Ceir y cyfeiriad cofnodedig cynharaf o'r gair sinamon (yn ei ffurf "sinamwn") yn y Gymraeg yn un o gerddi Guto'r Glyn o'r 15g.[3] Daw o'i gerdd, 'Moliant i Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt a’i wraig, Siân ferch Lawrence Stanstry':[7]

Sinsir a welir ar fwyd
a graens da rhag yr annwyd.
Sinamwn, clows a chwmin,
siwgr, mas, i wresogi’r min.

Ceir hefyd y gair "canel" sy'n fenchyciad o'r Saesneg Canol canel, canelle ‘canel, cinnamon’ neu o’r Lladin Diweddar, canella sy'n fychanig o 'canna' sy'n golygu "tiwb" ac yn cyfeirio at y ffordd bydd y rhusgl yn cwrlio a chreu tiwb wrth sychu.[8] Mae'r cofnod cynharaf o'r gair yma yn y Gymraeg yn mynd nôl i'r 14g.[1]

Cyflwyno a chadw

Plicio'r sinamon oddi ar canghennau, Sri Lanca (2017)

Mae sinamon fel arfer yn cael ei gyflwyno mewn math o focs i gadw'r rhisgl yn sych neu ar ffurf powdr.[2]

Fe'i cesglir yn ystod y tymor gwlyb, gan dorri egin y planhigyn ar waelod y ddaear. Yna mae'r rhisgl wedi'i wahanu, gan ei grafu â gwahanol fathau o gyllell a'i blicio. Mae'r dalennau yn cael eu gadael i sychu am bedwar neu bum diwrnod, ac yna eu sgriwio gyda'i gilydd i ffurfio rholyn. Yna cânt eu gadael i sychu eto yng ngolau'r haul. Yn olaf, maent wedi'u afliwio â sylffwr deuocsid.[4]

Mae dau fath o sinamon:[9]

Ffyn Cinnamomum verum (Sri Lanka) ar y chwith, a Cinnamomum burmanni (Indonesia) ar y dde
  • Cinnamomum aromaticum neu cassia: sef y math o sinamon sydd fwyaf cyffredin ar hyn o bryd. Mae ganddo risgl cymharol drwchus. Mae'n gryf chwerw a gyda mwy o gynnwys coumarin. Ceir 4 math:
  • Cinnamomum zeylanicum neu Cinnamomum verum (Sinamon Ceylon/Sri Lanca): daw ar ffurf sawl haen denau o risgl wedi'u rholio. Mae ganddo flas melysach a mwynach. Ystyrir hwn yn "wir sinamon".[10]

Rhaid ei gadw mewn cynhwysydd aerglos i ffwrdd o olau. Mae arogl sinamon mewn casgen yn para tua blwyddyn, tra bod arogl llawer yn para ychydig fisoedd yn unig.[13]

Cyfansoddiad

Am bob 100 gram o sinamon ceir:[14]

Calorïau: 373 kcal
Brasterau: 3.2 g
Colesterol: 0 mg
Calsiwm: 1,228 mg
Fitamin C: 28.5 mg
Carbohydradau: 80.5 g
Proteinau: 3.9 g

Mae sinamon hefyd yn cynnwys aldehyde sinamig.[5]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 "Canel". Gwasg Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2024.
  2. 2.0 2.1 2.2 "canyella | enciclopèdia.cat". Cyrchwyd 2021-03-31.
  3. 3.0 3.1 "Sinamon, Sinamwn". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2024.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 "cinnamon | Plant, Spice, History, & Uses". Cyrchwyd 2021-03-31.
  5. 5.0 5.1 "La canyella". Cyrchwyd 2021-03-31.
  6. "cinnamon". Oxford English Dictionary (2nd ed.). Oxford University Press. 1989.
  7. "97 – Moliant i Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt a'i wraig, Siân ferch Lawrence Stanstry". Guto'rGlyn.net golygydd Eurig Salisbury. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2024.
  8. Nodyn:Cite OED2
  9. "Quina classe de canyella és la més terapèutica?". Cyrchwyd 2021-03-31.
  10. 10.0 10.1 "Encyclopaedia Britannica article on Cinnamon, plant and spice". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Awst 2023. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2022.
  11. Iqbal, Mohammed (1993). "International trade in non-wood forest products: An overview". FO: Misc/93/11 – Working Paper. Food and Agriculture Organization of the United Nations. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mawrth 2019. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2012.
  12. Bell, Maguelonne Toussaint-Samat (2009). A history of food. Cyfieithwyd gan Anthea (arg. New expanded). Chichester, West Sussex: Wiley-Blackwell. ISBN 978-1405181198. Cassia, also known as cinnamon or Chinese cinnamon is a tree that has bark similar to that of cinnamon but with a rather pungent odour
  13. "6 health benefits of cinnamon". Cyrchwyd 2021-03-31.
  14. "Canela: propiedades, beneficios y valor nutricional" (yn Sbaeneg). 2018-08-05. Cyrchwyd 2021-03-31.

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am goginio. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.