Shân Cothi

Shân Cothi
GanwydShân Margaretta Morgan Edit this on Wikidata
25 Hydref 1965 Edit this on Wikidata
Ffarmers Edit this on Wikidata
Man preswylCaerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, canwr, cyflwynydd radio Edit this on Wikidata

Cantores, actores a chyflwynydd teledu a radio yw Shân Cothi (ganwyd 25 Hydref 1965).

Bywyd cynnar

Cafodd ei geni a'i magu yn Ffarmers, Sir Gaerfyrddin yn ferch i of. Ei henw bedydd yw Shân Margaretta Morgan ac roedd yn cael ei hadnabod fel "Shân y Gof" yn lleol. Mabwysiadodd ei henw llwyfan pan oedd yn un o ddwy Shân Morgan yn cystadlu yn Eisteddfod Aberteifi pan oedd yn blentyn.[1]

Astudiodd gerddoriaeth a drama ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ers hynny, cafodd ei anrhydeddu gan Gymrodoriaethau gan Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan.

Gyrfa

Dechreuodd ei gyrfa fel athrawes gerddoriaeth yn Ysgol Uwchradd Caereinion, Powys cyn symud i Ysgol Gyfun Ystalyfera yn Ne Cymru. Ym 1995, enillodd Wobr y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abergele 1995 a sbardunodd hi i droi'n gantores broffesiynol.

Mae Cothi wedi perfformio ledled y byd mewn amryw o leoliadau, o Ganolfan Mileniwm Cymru i'r West End, o Neuadd Albert i Westy Kowloon Shanghai, Hong Kong. Dengys ei gyrfa ei hystod eang o arddulliau cerddorol: o opera i oratorio, o theatr gerdd i ganeuon traddodiadol Cymreig.

Ym 1998-1999, cafodd Cothi ei rhaglen deledu ei hun ar S4C a redodd am ddwy gyfres. Enillodd wobr BAFTA hefyd a chafodd ei henwebu am y rhaglen gerddoriaeth orau yng Ngŵyl Montreaux.

Daeth llwyddiant mawr Cothi ar ôl iddi gael clyweliad gyda Syr Cameron Mackintosh. Yn 2000, cynigiwyd rôl Carlotta tanllyd iddi yn sioe gerdd yr Arglwydd Andrew Lloyd Webber, Phantom of the Opera. Perfformiodd y rôl am 15 mis yn Theatr y Frenhines yn y West End.

Yn 2005, cafodd Cothi ran "Davina Roberts", arweinydd "Côr Meibion Gwili" yn y gyfres ddrama deledu Con Passionate ar S4C. Roedd y sioe yn llwyddiant ysgubol, gan ennill sawl BAFTA a'r wobr gyntaf yn seremoni gwobrwyo Rose d'Or. Yn 2008, ail-recordiodd Shân, ynghyd â Bryn Terfel a gweddill aelodau Tigertailz, y gân "I Believe" yn ogystal â fideo sy'n newid rhwng Terfel a Cothi'n canu eu rhannau hwy o'r gân.

Yn 2009, dechreuodd Shân gyd-gyflwyno'r gyfres Bro ar S4C gyda Iolo Williams - cyfres sy'n eu dilyn i bob cwr o Gymru i ddod i adnabod ardaloedd yn well, drwy'r tirlun, yr hanes a'r bobl sy'n byw yno.

Ers 2014 mae'n gyflwyno Bore Cothi, sioe foreol ddyddiol yn ystod yr wythnos ar BBC Radio Cymru.

Bywyd personol

Ar 30 Awst 2007 priododd ei phartner hir-dymor Huw Justin Smith, a adwaenir orau fel y cerddor Pepsi Tate. Ar y 18 Medi 2007, lai na mis wedi iddynt briodi bu farw Smith o gancr y pancreas ym Mhenarth, Caerdydd.[2]

Teledu

Cyfeiriadau

  1.  BBC - Llais Llên. BBC. Adalwyd ar 25 Ionawr 2016.
  2. Farewell event for rock musician. BBC Wales. Adalwyd 30-08-2009

Dolenni allanol

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!