Lle ar gyfer y celfyddydau perfformiadol yw Canolfan Mileniwm Cymru a leolir yng Nghaerdydd.
Cynlluniodd rhan cyntaf y ganolfan gan Jonathan Adams, a'r ail rhan gan Tim Green a Keith Vince. Dechreuodd gwaith adeiladu yn Chwefror 2002. Agorwyd rhan cyntaf yr adaeilad yn swyddogol yn Nhachwedd 2004 ac ail ddarn y prosiect - yn cynnwys Neuadd Hoddinott (gyda 350 o seddi) - ar 22 Ionawr 2009. Cynlluniwyd Neuadd Hoddinott yn fewnol fel capel.
Yn ogystal y mae saith sefydliad celfyddydol wedi eu lleoli yno, gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru, yr Academi Gymreig Opera Cenedlaethol Cymru, Tŷ Cerdd, Diversions - Cwmni Dawns Cymru, Touch Trust a Hijinx. Mae canolfan Urdd Gobaith Cymru yno yn cynnwys canolfan o 150 gwely i blant Cymru allu aros yno. Mae 2 theatr, un gyda 1,900 o seddi ac y llall gyda 250. Mae stiwdio dawns, neuaddau ymarfer, stiwdios recordio, siopau, bars a chaffis. Maint y ganolfan yw 37,000 medr sgwâr. Adeiladwyd gwaliau'r ganolfan gyda llechfaen o lywiau gwahanol o chwareli ar draws Cymru; porffor o Benrhyn, glas o Chwarl Cwt-y-Bugail, gwyrdd o Chwarel Nantlle, llwyd o Chwarel Llechwedd a du o Chwarel Corris. Defnyddiwyd 3,600 o dunnellau o lechu. Defnyddiwyd breuan ddu rhwng y llechu i roi argraff bod y waliau heb freuan. Defnyddiwyd dur ar do'r adeilad i gynrychioli diwydiant arall Cymru.[1].
Cyfansoddwyd y geiriau ar yr adeilad gan Gwyneth Lewis.[2]
Ymwelodd dros 14.75 milwn o bobl â'r ganolfan yn ystod ei degawd cyntaf.[3]
Llysenw'r adeilad yw'r "Armellog".
<ref>
Gwefan designbuild-network.com