Semiramis

Roedd Semiramis yn frenhines Assyriaidd chwedlonol sy'n cael ei hadnabod hefyd fel Semiramide, Semiramida, neu Shamiram yn Aramaeg.

Semiramis
Engrafiad Eidalaidd o'r 18g sy'n darlunio Semiramis fel Amason arfog

Roedd Semiramis yn frenhines Assyriaidd chwedlonol sy'n cael ei hadnabod hefyd fel Semiramide, Semiramida, neu Shamiram yn Aramaeg.

Mae nifer o chwedlau wedi tyfu o'i chwmpas dros y canrifoedd. Cafwyd sawl ymgais i'w huniaethu ag unigolion go iawn. Weithiau caiff ei huniaethu â'r Frenhines Shammuramat, gwraig Fabilonaidd y Brenin Shamshi-Adad V o Assyria (teyrnasodd 811 – 808 CC), ond nid yw pawb yn derbyn hynny.

Yn y chwedlau amdani a geir yng ngwaith yr awduron clasurol Diodorus Siculus, Junianus Justinus ac eraill, sy'n deillio o gyfeiriadau gan Ctesias o Cnidus yn bennaf, portreadir Semiramis mewn perthynas â'r Brenin Ninus. Tyfodd y chwedlau gwerin amdani yn y Dwyrain Canol, er enghraifft mewn cysylltiad â henebion o darddiad anhysbys neu anghofiedig[1] Gyda threiglad amser daeth pobl i gysylltu enw Semiramis â nifer o henebion a safleodd hynafol ym Mesopotamia a gorllewin Iran, e.e. arysgrif Behistun, gwaith Darius I o Persia.[2] Mae Herodotus yn priodoli iddi'r cloddiau anferth a reolai lif afon Euphrates [3] ac mae'n cofnodi ei enw mewn cysylltiad ag un o byrth enwog dinas Babilon.[4]

Roedd sawl lle ym Medea, gwlad y Mediaid, yn dwyn ei henw yn ddiweddarach, hyd at yr Oesoedd Canol, a hen enw talaith Van (dwyrain Twrci) oedd Shamiramagerd.

Ei hanes yn ôl Diodorus Siculus

"Y Bugail yn darganfod y baban Semiramis", gan Ernest Wallcousins (1882–1976)

Yn ôl y chwedl a adroddir gan Diodorus Siculus, ganwyd Semriamis yn ferch i Derketo, duwies y pysgod, o Ascalon yn Syria, a dyn meidrol. Ond gadwyd y baban gan Derketo ar ei enedigaeth a boddodd ei hun (h.y. dychwelodd i'r afon yr oedd yn dduwies arni). Magwyd yr eneth gan golomenod nes iddi gael ei darganfod a'i magu gan Simmas, bugail y brenin lleol.

Yn nes ymlaen priododd ag Onnes neu Menones, un o gadfridogion y brenin Ninus. Daeth yn rhyfelwraig o fri. Roedd Ninus yn ei edmygu gymaint ar ôl ei gweld hi yn cipio Bactria fel y priododd hi, gan beri i Onnes ladd ei hun.

Cafodd Semiramis a Ninus fab o'r enw Ninyas. Ar ôl i Ninus oresgyn Asia cafodd ei glwyfo'n angheuol gan saeth mewn brwydr. Yna ymddangosodd Semiramis o flaen byddin ei gŵr a thwyllo'r milwyr i gredu mae hi oedd eu mab Ninyas a dilyn ei gorchymyn. Teyrnasodd wedyn fel brenhines ar ran helaeth o Asia. Daeth yn enwog am ei gallu fel llywodraethwr ac ymchwanegodd Ethiopia i'w hymerodraeth. Adferodd dinas hynafol Babilon i'w hen ogoniant a chododd fur anferth o friciau clai i'w hamddiffyn. Fodd bynnag, yn y diwedd cafodd ei lladd gan ei mab Ninyas.

Ceir motiff y pysgod a'r golomen yn y traddodiadau a gysylltir â theml fawr Hierapolis Bambyce (Mabbog), a sefydlwyd gan Semiramis yn ôl Lucian, lle roedd cerflun ohoni gyda cholomen uwch ei phen.[5]

Traddodiadau eraill a chyfeiriadau llenyddol

Yn chwedloniaeth Armenia portreadir Semiramis fel hwran sy'n dinsitrio bywyd teuluol. Mae'n bosibl fod hyn yn adwaith Cristnogol i chwedlau a uniaethai Semiramis ag Ishtar neu Astarte, dwy dduwies serch gyda'r golomen yn symbol iddynt. Ceir chwedl werin Armeniaidd sy'n ei chysylltu a'r Brenin chwedlonol Ara Hardd, a cheir cerdd Aremenieg enwog gan y bardd Nairi Zarian am eu carwriaeth. Gwrthododd y brenin gariad Semiramis a chododd y frenhines fyddin i ymosod ar Armenia. Lladdwyd Ara mewn brwydr yn Nyffryn Ararat ond cafodd ei atgyfodi yn fyw gan Semiramis ar ôl iddi weddïo i'r duwiau. Ond yn ôl fersiynau eraill ni lwyddodd hi i'w atgyfodi.

Yn y Divina Commedia, mae Dante yn rhestru Semiramis ochr yn ochr ag Elen o Gaerdroea ymhlith eneidiau'r trachwantus yn Ail Gylch Uffern. Cyfeirir ati, ond dim fel cymeriad yn yr hanes, yn y gerdd Arthuraidd ganoloesol Lanval gan Marie de France.

Mae Semiramis yn gymeriad mewn sawl drama ac opera, e.e. y drasiedi Semiramis gan Voltaire, yr opera Semiramide gan yr Eidalwr Domenico Cimarosa, a'r opera arall o'r un enw gan Rossini. Yng ngwaith y beirdd Rhamantaidd mae Semiramis yn symbol o harddwch eithiradol a nwyd.

Cyfeiriadau

  1. Gweler Strabo xvi. I. 2, er enghraifft
  2. Diodorus Siculus ii. 3
  3. Herodotus i. 184
  4. Herodotus iii. 155
  5. Lucian, De dea Syria, 14

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.