Pencampwriaeth Pêl-droed UEFA Euro 2020, a gyfeirir ato hefyd fel Euro 2020, oedd yr 16eg Pencampwriaeth Ewrop ar gyfer timau pêl-droed cenedlaethol dynion a drefnwyd gan UEFA. Roedd disgwyl i'r gystadleuaeth gael ei chynnal mewn 12 gwlad wahanol o gwmpas Ewrop rhwng 12 Mehefin 2020 hyd 12 Gorffennaf 2020. Gohiriwyd y twrnamaint tan 2021 oherwydd y Pandemig COVID-19.[1]
Cynhaliwyd y seremoni agoriadol yn y Stadio Olimpico yn Rhufain, yr Eidal, ar 11 Mehefin 2021, cyn gêm gyntaf y twrnamaint. Perfformiodd y canwr opera Eidalaidd Andrea Bocelli y gân "Nessun dorma".[2]
Cymru
Yn y rownd grŵp, chwaraeodd Cymru yn erbyn y Swistir (gêm gyfartal 1-1), Twrci (gan ennill 0-2) a'r Eidal (colli 1-0). Felly roedd Cymru yn ail y tabl ac yn symud ymlaen i'r rownd 16 olaf.[3] Chwaraeodd Cymru yn erbyn Denmarc yn Arena Johan Cruijff, Amsterdam ond collwyd y gêm o 0-4, gan ei bwrw allan o'r gystadleuaeth.[4]
Canlyniad
Enillodd yr Eidal y rownd derfynol ar gosbau yn erbyn Lloegr yn dilyn gêm gyfartal 1–1 ar ôl amser ychwanegol. Cyn y rownd derfynol, gorfododd tua 400 o gefnogwyr Lloegr eu ffordd i mewn i'r stadiwm heb docynnau.[5] Roedd llawer yn dreisgar.[6]
Sylwadau hiliol
Ar ôl y gêm, roedd y chwaraewyr Seisnig Bukayo Saka, Jadon Sancho a Marcus Rashford yn destun cam-drin hiliol ar-lein ar ôl colli cosbau.[7]
Cyfeiriadau