Mae The Daily Telegraph (a enwyd yn flaenorol yn "The Telegraph") yn bapur newyddargrafflen yn y DU, a gafodd ei sefydlu ym 1855. Ac eithro'r Financial Times a The Herald (Glasgow), dyma'r unig bapur newydd dyddiol cenedlaethol i gael ei argraffu ar argraffbrint traddodiadol ar fformat argrafflen yn y Deyrnas Unedig, am fod y mwyafrif o argrafflenni eraill wedi newid i'r fformat llai ac yn debycach o ran maint i dabloid. Sefydlwyd ei chwaer bapur, The Sunday Telegraph ym 1961.
Ym mis Ionawr 2009, y Telegraph oedd y papur "maint mawr" gyda'r gwerthiant uchaf yng ngwledydd Prydain, gyda darllediad dyddiol cyfartalog o 842,912. Mae hyn yn cymharu gyda 617,483 ar gyfer papur newydd The Times, 358,844 ar gyfer The Guardian a 215,504 gyda The Independent.[1] Yn ôl arolwg MORI a gynhaliwd yn 2005, roedd 64% o ddarllenwyr y Telegraph yn bwriadu cefnogi'r Blaid Geidwadol yn yr etholiadau arfaethedig.[2]
↑[Audit Bureau of Circulations Ltd Nid yw'r ffigurau hyn yn cymryd papurau a roddir yn rhad am ddim mewn gwestai, gorsafoedd rheilffordd ac awyrennau i mewn i ystyriaeth.