Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2012, neu Euro 2012 oedd y 14eg tro i UEFA gynnal pencampwriaeth pêl-droed i ddynion. Cynhaliwyd y bencampwriaeth am y tro cyntaf yng Ngwlad Pwyl a'r Wcráin rhwng 8 Mehefin a 1 Gorffennaf2012.
Sbaen oedd yn fuddugol gan guro Yr Eidal 4-0 yn y rownd derfynol yn y Stadiwm Olympaidd yn Kiev, Wcráin[1].
Daeth Sbaen y tîm cyntaf yn hanes i ennill dau Bencampwriaeth Ewropeaidd o'r bron, a'r cyntaf i ennill tri prif bencampwriaeth pêl-droed o'r bron; Euro 2008, Cwpan y Byd 2010 ac Euro 2012[2].
Ar 8 Tachwedd2005, lluniwyd rhestr fer o dri chais gan Bwyllgor Gweithredol UEFA gyda cheisiadau Groeg a Thwrci yn cael eu diystyru[4]. Yn dilyn ymweliadau â'r gwledydd oedd ar ôl yn y broses cafwyd pleidlais yn ystod cyfarfod Pwyllgor Gweithredol Uefa yng Nghaerdydd ar 18 Ebrill, 2007[5] gyda Gwlad Pwyl-Wcráin yn fuddugol ar ôl sicrhau wyth pleidlais, Yr Eidal yn cael pedair pleidlais a Croatia-Hwngari yn methu sicrhau yr un bleidlais.
Gemau rhagbrofol
Roedd 51 o dimau yn cystadlu ar gyfer 14 o lefydd yn y rowndiau terfynol ochr yn ochr â Gwlad Pwyl a'r Wcráin. Rhannwyd y timau i naw grŵp gydag enillwyr pob grŵp yn sicrhau eu lle yn y rowndiau terfynol ynghyd â'r tîm oedd â'r record orau ar ôl gorffen yn yr ail safle. Cyfarfu'r wyth tîm arall oedd wedi gorffen yn ail yn eu grŵp mewn gemau ail gyfle er mwyn sicrhau'r pedwar tîm olaf fyddai'n cyrraedd Euro 2012[6].