Fforiwr a morlywiwr o Bortiwgal oedd Pedro Álvares Cabral (1467 neu 1468 – 1520) sydd yn nodedig fel yr Ewropeaid cyntaf i ddarganfod Brasil. Efe oedd y bod dynol cyntaf erioed i deithio i bedwar cyfandir: Ewrop, De America, Affrica, ac Asia.
Ganed ef yn Belmonte, Teyrnas Portiwgal, yn fab i'r uchelwr Fernão Cabral a'i wraig Isabel de Gouveia. Daeth dan nawdd y Brenin Manuel I (teyrnasai 1495–1521), a rodd iddo sawl braint ym 1497, gan gynnwys lwfans personol, cwnsleriaeth, ac Urdd Crist.
Yn sgil llwyddiant mordaith Vasco da Gama i'r India (1497–99), gorchmynnodd y brenin i Cabral arwain ail fordaith i'r dwyrain. Ar 9 Mawrth 1500, cychwynnodd Cabral ar y daith o Lisbon gyda 13 o longau i ddilyn llwybr da Gama i'r dwyrain, gyda'r nod o gryfhau cysylltiadau masnachol â'r dwyrain ac i ennill y blaen ar rymoedd Ewropeaidd eraill yn Oes y Darganfod. Yn unol â chyfarwyddiadau da Gama, hwyliodd Cabral i'r de-orllewin er mwyn osgoi dyfroedd di-wynt Gwlff Gini. Dyma hefyd gyfle iddynt rhagchwilio'r tiroedd i'r gorllewin yn y Byd Newydd, yr oedd gan Ymerodraeth Portiwgal hawl i ran ohonynt yn ôl Cytundeb Tordesillas (1494). Ar 22 Ebrill 1500 gwelodd Cabral dir mawr a elwid ganddo yn Ynys y Wir Groes. Ailenwyd y diriogaeth yn Y Groes Sanctaidd gan y Brenin Manuel, ac yn ddiweddarach rhoddwyd yr enw Brasil arni ar ôl y goeden frasil (pau-brasil) sydd yn frodorol i Goedwig yr Iwerydd.
Wedi 10 niwrnod yn archwilio'r arfordir a chwrdd â'r brodorion, anfonodd Cabral un o'r llongau yn ôl i Bortiwgal i hysbysu'r brenin am ei diriogaeth newydd, ac aeth ymlaen i'r India gyda gweddill yr alldaith. Wrth rowndio Penrhyn Gobaith Da ar 29 Mai, suddodd pedair llong a bu farw'r holl griw o bob un o'r rheiny. O'r diwedd, cyrhaeddodd yr wyth llong a fu'n weddill borthladd Calecute ar Arfordir Malabar, a chroesawyd Cabral gan y teyrn Hindŵaidd lleol, a roddai iddo ganiatâd i sefydlu gorsaf fasnachu gaerog. Fodd bynnag, gwrthwynebwyd presenoldeb y Portiwgaliaid gan farsiandïwyr Mwslimaidd, ac ar 17 Rhagfyr 1500 ymosodwyd ar yr orsaf fasnachu gan y Mwslimiaid a lladdwyd y mwyafrif o'r amddiffynwyr cyn iddynt dderbyn cefnogaeth o'r llongau yn yr harbwr. Ymatebodd Cabral drwy fagnelu'r ddinas, ac yna cipio 10 o longau Mwslimaidd a dienyddio'r griwiau. Gyda chwech llong ar ôl, aeth ymlaen i borthladdoedd Cochim a Cananor i fasnachu, ac ar 16 Ionawr 1501 cychwynnodd ar y daith yn ôl i Bortiwgal gyda'r llongau yn llwythog o sbeisys. Cafwyd dau longddrylliad arall cyn i Cabral gyrraedd aber Afon Tagus ar 23 Mehefin 1501.
Er i'r Brenin Manuel groesawu'r fforiwr yn ôl a datgan ei bleser am ganlyniad yr alldaith, ni châi Cabral ei ddewis i arwain mordaith arall, nac ei benodi i unrhyw swydd arall yn y llys brenhinol. Mae'n bosib i Cabrael gael ei feio am anffodion niferus y fordaith, neu iddo fod ar ei golled oherwydd anghytundeb rhyngddo fe a da Gama. Beth bynnag y rheswm, ymddeolodd Cabral a threuliodd ei flynyddoedd olaf ar ei ystad yn nhalaith Beira Baixa, a chafodd ei gladdu yn Santarém.[1]
Cyfeiriadau