Oes y DarganfodPlanisffer Cantino (1502), y siart hynaf sydd gennym o ddarganfyddiadau'r fforwyr Columbus yng Nghanolbarth America, Corte-Real yn Newfoundland, Gama yn yr India, a Cabral ym Mrasil. |
Math | oes |
---|
|
Daearyddiaeth |
---|
|
|
Enw ar gyfnod o hanes Ewrop o ddechrau'r 15g hyd ddiwedd y 18g yw Oes y Darganfod neu Oes Aur Fforio a welsai fforio ar raddfa eang gan yr Ewropeaid. Daeth ymchwiliadau a darganfyddiadau tramor i'r amlwg fel elfen bwysig o ddiwylliant, gwleidyddiaeth, ac economi Ewrop a nodai cyfnod cychwynnol globaleiddio a'r cyfundrefnau trefedigaethol a mercantilaidd. Darganfuwyd nifer o diroedd a oedd ynghynt yn anhysbys i'r Ewropeaid yn ystod yr oes hon, er yr oedd y mwyafrif ohonynt eisoes yn boblog. O safbwynt y bobloedd hynny yn yr Amerig, Affrica, Asia, ac Oceania, Oes y Darganfod oedd y cyfnod o ymosodiadau a goresgyniadau gan yr Ewropeaid.
Dechreuodd fordeithiau Ewropeaidd i gyfandiroedd eraill yn sgil darganfyddiadau'r Portiwgaliaid yn nechrau'r 15g: ynysforoedd Madeira a'r Azores yng Nghefnfor yr Iwerydd yn 1419 a 1427, arfordir Affrica ar ôl 1434, a'r môr-lwybr i'r India yn 1498. Gorchestion mwyaf yr oes oedd darganfyddiad yr Amerig yn 1492 gan yr Eidalwr Cristoforo Colombo, neu Columbus, dan nawdd Coron Castilia, a'r gylchfordaith gyntaf gan y Portiwgead Fernão de Magalhães a'r Basgwr Juan Sebastian Elkano yn 1519–22. Arweiniodd y darganfyddiadau hyn at sawl mordaith ar draws yr Iwerydd, Cefnfor India, a'r Cefnfor Tawel, ac ymgyrchoedd i diroedd yr Amerig, Asia, Affrica, ac Awstralia, a pharhaodd fforwyr Ewropeaidd i ymdeithio a mapio tiroedd anhysbys drwy gydol y 19g hyd at oes fforio'r pegynau yn yr 20g.
Datblygodd y drefn fasnachol fyd-eang ac ymerodraethau trefedigaethol Ewrop o ganlyniad i fforiadau'r Ewropeaid a greodd cysylltiadau newydd gyda gwledydd tramor a phobloedd estron. Rhoddir yr enw "cyfnewid Columbaidd" ar y trosglwyddiadau o blanhigion, anifeiliaid, bwydydd, afiechydon heintus, a diwylliant rhwng yr Hen Fyd (Affrica-Ewrasia) a'r Byd Newydd (yr Amerig ac Oceania), yn ogystal â'r newidiadau demograffig a chymdeithasol a welsai poblogaethau o hemisffer y dwyrain (gan gynnwys setlwyr, mewnfudwyr, a chaethweision) yn ymfudo i hemisffer y gorllewin. Y cyfnewid eang hwn oedd un o ddigwyddiadau mwyaf pwysicaf yn hanes y byd a'r ddynolryw yn nhermau ecoleg, amaeth, a diwylliant. O ganlyniad i Oes y Darganfod, llwyddwyd i fapio holl diroedd a moroedd y Ddaear gron a chysylltu gwareiddiadau a chymdeithasau pellennig y byd, ac arweiniai hefyd at ymlediad clefydau gan ddifetha poblogaethau'r Byd Newydd a chyfnod hir o gaethwasiaeth, ecsbloetiaeth, gorchfygiad milwrol, a thra-arglwyddiaeth wleidyddol ac economaidd gan ymerodraethau Ewrop dros bobloedd frodorol. O ganlyniad i genadaethau ledled y byd, a alluogwyd gan Oes y Darganfod, daeth Cristnogaeth yn y grefydd fwyaf o ran nifer ei ddilynwyr.[1][2]
Cyfeiriadau