Llwybr sy'n arwain ar hyd arfordir Sir Benfro o Landudoch ger Aberteifi i Amroth yw Llwybr Arfordir Sir Benfro. Mae'n cadw yn agos at y môr y rhan fwyaf o'r ffordd. Sefydlwyd y llwybr yn 1970, ac mae'n 186 milltir (300 km) o hyd, gyda tua 35,000 troedfedd o esgyn a disgyn. Mae'n un o wyth llwybr rhanbarthol ar Lwybr Arfordir Cymru, sy'n 870 milltir o hyd ac a agorwyd yn 2012.[1]
Mewn dau le, Dale a Sandy Haven, mae rhannau na ellir eu defnyddio ond ar lanw isel. Yn cychwyn o Landudoch, gellir aros dros nos yn y lleoedd canlynol:
Ceir nifer o lwybrau lleol, llai y gellir eu defnyddio ac sy'n cychwyn ger Llwybr yr Arfordir, er enghraifft:
Taith gylchol Cilgerran. Disgrifir anhawster y llwybr 4.2 milltir hwn fel un 'canolig', a dylai gymryd oddeutu teirawr. Y man cychwyn ydy maes parcio Dolbadau, Cilgerran ac mae'n dilyn llwybr y goedwig i'r Ganolfan Awyr Agored. Mae'r llwybr yn ôl i Ddolbadau'n cynnwys rhannau serth drwy ddyffryn Cilgerran.
Llwybr feics a cherdded Neyland. Ceir wyneb caled i'r llwybr hwn sydd yn 9 km; dylai gymryd oddeutu pedair awr i'w gerdded, llai ar feic. Y man cychwyn ydy maes parcio Cei Brunel yn Neyland (OS: SM965055) ac mae'n diweddu yn Neuadd y Dref, Hwlffordd (OS: SM954155). Ar hyd y daith ceir golygfeydd hynod o Aberdaugleddau a'i fae a ddisgrifir gan rai fel y marina smartiaf yng Nghymru.[2]
Llwybr Llys-y-Frân, Hwlffordd. Disgrifir anhawster y llwybr 6.5 milltir hwn fel 'canolig' a dylid medru ei gerdded mewn teirawr. Gro mân neu laswellt yw ei wyneb ac mae'n cylchu argae Llys-y-Frân (OS: SN036242) a pharc gwledig Llys-y-Frân, sy'n 350 erw.[3] Mae'r llwybr a'r parc ar agor 365 diwrnod y flwyddyn o 8.00 y bore hyd fachlud haul.