Pentref a chymuned yn Sir Benfro yw Angle.[1] Mae yn y rhanbarth Saesneg ei hiaith, ac nid ymddengys fod enw Cymraeg ar y pentref. Saif yn ne-orllewin y sir, ar ochr ddeheuol Afon Cleddau, gyferbyn ag Aberdaugleddau ac i'r gorllewin o dref Doc Penfro.
Ceir gorsaf bad achub yma, dwy dafarn, ysgol gynradd, swyddfa'r post ac eglwys, ac mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd heibio'r pentref.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.