Tref a chymuned yn ne Sir Benfro, Cymru, yw Aberdaugleddau[1] (Saesneg: Milford Haven).[2] Mae ganddi phoblogaeth o tua 14,000. Yno mae porthladd mwyaf Cymru, sy'n borthladd naturiol. Gan fod modd i longau enfawr ddod i mewn i'r porthladd mae sawl purfa olew yno. Daw enw'r dref o Afon Cleddau (hefyd a elwir yn afon Daugleddau), a ffurfwyd gan gydlifiad Afon Cleddau Ddu a Chleddau Wen.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[4]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Aberdaugleddau (pob oed) (13,907) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberdaugleddau) (1,191) |
|
8.9% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberdaugleddau) (10986) |
|
79% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Aberdaugleddau) (2,635) |
|
42.9% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Adeiladau a chofadeiladau
- Amgueddfa Aberdaugleddau
- Tolldy
- Eglwys Santes Catrin a Sant Pedr
- Fort Hubberstone
Enwogion
Cyfeiriadau
Dolen allanol