Bardd Cymraeg oedd Lewis ab Edward neu Lewis Meirchion (bl. 1521–1568). Roedd yn un o'r to olaf o Feirdd yr Uchelwyr i raddio yn bencerdd.[1]
Bywgraffiad
Brodor o Fodfari (Sir Ddinbych heddiw) oedd Lewis. Fe'i ganed rhywbryd tua 1521 (ar sail y gerdd gynharaf y gellir ei dyddio). Roedd yn un o ddisgyblion barddol Gruffudd Hiraethog. Graddiodd yn bencerdd cerdd dafod yn Eisteddfod Caerwys 1567, yr ail o Eisteddfodau Caerwys.[1]
Cerddi
Canodd gerddi mawl i deuluoedd uchelwrol gogledd Cymru. Cedwir un awdl 38 cywydd a thua ugain o englynion o'i waith. Y gerdd gynharaf ganddo y gellir ei dyddio â sicrwydd yw ei farwnad i Ieuan Llwyd o blas Glynllifon yn Arfon. Canodd farwnad i'r hynafiaethydd a meddyg Humphrey Llwyd (m. 1568) hefyd; dyma'r gerdd olaf o'i waith y gellir ei dyddio.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.