Hywel Cilan |
---|
Ganwyd | 15 g |
---|
Galwedigaeth | bardd |
---|
Roedd Hywel Cilan (fl. 1435 - 1470) yn fardd a ganai yn y dull traddodiadol ym Mhowys yn ail hanner y 15g; ar sail tystiolaeth fewnol ei gerddi, credir ei fod yn frodor o Landrillo ym Meirionnydd.[1]
Cedwir 27 o gerddi ganddo, y rhan fwyaf ohonynt yn gywyddau moliant i noddwyr ym Mhowys, yn cynnwys aelodau o deuluoedd Llwydiarth, Crogen, Maesmor, y Rug, Peniarth, y Rhiwlas, Corsygedol, Deuddwr a Moelyrch.[2]
Llyfryddiaeth
- Gwaith Hywel Cilan, gol. Islwyn Jones (Caerdydd, 1963). Y golygiad safonol o'i waith.
Cyfeiriadau
- ↑ Islwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963). Rhagymadrodd.
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-lein. Adalwyd ar 29 Chwefror8 Mai 2012.