Cynhaliwyd Eisteddfod Caerwys 1567 yng Nghaerwys, Sir y Fflint. Dyma'r ail o Eisteddfodau Caerwys yn dilyn y gyntaf, sef Eisteddfod Caerwys 1523. Bwriad y ddwy oedd pennu rheolau Cerdd Dafod a Cherdd Dant ac rhoi trefn ar feirdd a cherddorion Cymru trwy sustem o drwyddedau. Credir i'r eisteddfod gael ei chynnal mewn tŷ yn perthyn i deulu Mostyn, noddwyr y ddwy eisteddfod yn ôl pob tebyg, efallai ar y sgwâr yng nghanol Caerwys a adnabyddir fel Sgwâr Mostyn hyd heddiw.[1]
Un o'r rhesymau dros gynnal yr eisteddfod hon yn 1567 oedd dathlu pedwar can mlwyddiant Eisteddfod Aberteifi. Eisteddfod ar gyfer beirdd a cherddorion gogledd Cymru, sef 'Talaith Aberffraw', oedd eisteddfod 1567.
Graddedigion
Nid yw pob llawysgrif sy'n cofnodi'r graddedigion hyn yn gwbl gytûn ond dyma'r rhestr a dderbynnir fel rheol.[2][3] Ni nodir yma y cerddorion - sef y telynorion a'r crythorion - yn y dosbarthiadau is.
Cerdd Dafod
- Penceirddiaid
- Disgyblion pencerddaidd
- Disgyblion disgyblaidd
- Disgyblion Ysbas
Telynorion
- Penceirddiaid Cerdd Dant
- Siôn ap Rhys
- Wiliam Penllyn
- Hwlcyn Llwyd
- Disgyblion penceirddiaid
- Thomas Anwyl
- Dafydd Llwyd ap Siôn ap Rhys
- Edward ab Ifan
- Robert ap Hywel Llanfor
- Wmffre Goch
- Disgyblion disgyblaidd
- Rhisiard Glyn
- Rhobert Llwyd
- Ieuan Penllyn
- Lewis Llanfor
Crythorion
- Dosbarth Cyntaf
- Siamas Eutyn
- Ieuan Penmon
- Ail Ddosbarth
- Rhobert ap Rhys Gutyn
- Tomas Môn
- Siôn Ednyfed
- Tomas Grythor
- Trydydd Ddosbarth
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
- ↑ Gwyn Thomas, Eisteddfodau Caerwys, tud. 52.
- ↑ Gwyn Thomas, Eisteddfodau Caerwys, tt. 96-98.
- ↑ Meurig Idris, Y Brython. Y Gyfrol Gyntaf a'r Ail (Tremadog, 1901), tud. 148.