Eisteddfod Aberteifi, a gynhaliwyd dros y Nadolig yn 1176, yw'r eisteddfod gyntaf sy'n hysbys.
Fe'i cynhaliwyd gan Yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth yn ei lys yn Aberteifi. Cyn ei chynnal roedd y tywysog wedi anfon cenhadon i bob cwr o'r wlad i gyhoeddi'r ŵyl. Dyma'r cofnod amdano sydd ym Mrut y Tywysogion (diweddarwyd yr orgraff):
- Y Nadolig yny flwyddyn honno y cynhelis yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd llys yn ardderchog yn Aberteifi, yn y castell, ac y gosodes deuryw ymryson yno, un y rhwng beirdd a phrydyddion, un arall y rhwng telynorion a chrythorion a phibyddion ac amrafaelion genhedloedd gerdd miwsig, ac ef a beris gosod dwy gadair i'r gorchfygwyr ac ef a anrhydedodd y rhei hynny o roddion ehelaeth.
Gŵr ifanc o lys Rhys a enillodd gadair y telynorion ond cipiwyd y gwobrau barddonol gan feirdd Gwynedd. Yn anffodus dydi'r Brut ddim yn enwi'r beirdd hynny ond buasai Cynddelw Brydydd Mawr, Meilyr ap Gwalchmai ac Einion ap Gwalchmai yn eu hanterth.
Awgrymir bod y syniad am yr ŵyl yn dod o ŵyl debyg yn Ffrainc, y Puy. Roedd gan Rhys gysylltiadau â'r Ffrancwyr Normanaidd.[1]
Cyfeiriadau