Jonathan Williams |
Gwybodaeth Bersonol |
---|
Enw llawn | Jonathan Peter Williams[1] |
---|
Dyddiad geni | (1993-10-09) 9 Hydref 1993 (31 oed) |
---|
Man geni | Pembury, Caint, Lloegr |
---|
Taldra | 1.68m |
---|
Safle | Canol Cae |
---|
Y Clwb |
---|
Clwb presennol | Crystal Palace |
---|
Rhif | 20 |
---|
Gyrfa Ieuenctid |
---|
| Crystal Palace |
---|
Gyrfa Lawn* |
---|
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
---|
2011– | Crystal Palace | 50 | (0) |
---|
2014 | → Ipswich Town (benthyg) | 12 | (1) |
---|
Tîm Cenedlaethol‡ |
---|
2007–2009 | Cymru dan 17 | 16 | (1) |
---|
2009 | Cymru dan 19 | 5 | (0) |
---|
2010– | Cymru dan 21 | 7 | (1) |
---|
2013– | Cymru | 6 | (0) |
---|
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 15:41, 5 Mehefin 2014 (UTC).
† Ymddangosiadau (Goliau).
‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 15:41, 5 Mehefin 2014 (UTC) |
Pêl-droediwr Cymreig yw Jonathan Williams (ganwyd Jonathan Peter Williams 9 Hydref 1993) sy'n chwarae i Crystal Palace yn Uwchgynghrair Lloegr a thîm Cenedlaethol Cymru.
Ar ôl chwarae i Academi ac Ail Dîm Crystal Palace llwyddodd Williams i wneud ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm cyntaf yn Awst 2011 fel eilydd yn y fuddugoliaeth dros Coventry City[2].
Ar ôl torri ei goes tra'n chwarae i dîm Cymru dan 21 yn Armenia[3] dychwelodd i'r tîm cyntaf ar ddechrau tymor 2012/13 a chafodd ei wobrwyo â gwobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn y clwb ar ddiwedd y tymor[4].
Yn Chwefror 2014 aeth Williams ar fenthyg i Ipswich Town[4].
Mae Williams yn gymwys i chwarae dros Gymru gan fod ei dad yn dod o Ynys Môn[5] a chafodd ei gap llawn cyntaf i Gymru yn y fuddugoliaeth dros Yr Alban ar Barc Hampden, Glasgow ym Mawrth 2013[6].
Cyfeiriadau