Awdur ac athro yw John Selwyn Lloyd neu J. Selwyn Lloyd (1931-2000) sy'n adnabyddus am ysgrifennu nifer fawr o nofelau Cymraeg i blant a phobl ifanc.
Ganed yn Nhynweirglodd ger Y Lôn Ddwr, Talysarn, Dyffryn Nantlle a bu'n byw yng Nghorwen.[1] Symudodd wedyn i Roshirwaun, ger Aberdaron. Yn ei flynyddoedd olaf, bu'n preswylio yng nghartref Marbryn, Caernarfon. Fe'i claddwyd ym mynwent Aberdaron.
(rhestr anghyflawn)