Mae granola yn fwyd brecwast a byrbryd sy'n cynnwys ceirch rholio, cnau, mêl neu felysyddion eraill fel siwgr coch, ac weithiau reis wedi'i bwffio, sydd fel ar
| Math | food preserve, grawnfwyd brecwast |
|---|---|
| Deunydd | ceirch rholio, nut, mêl |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Rhan o | Miwsli |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02z9dy |
| Quora | Granola |

Mae granola yn fwyd brecwast a byrbryd sy'n cynnwys ceirch rholio, cnau, mêl neu felysyddion eraill fel siwgr coch, ac weithiau reis wedi'i bwffio, sydd fel arfer yn cael ei bobi nes ei fod yn grimp, wedi'i dostio ac yn frown euraidd.[1]
Yn ystod y broses pobi, caiff y cymysgedd ei droi i gynnal cysondeb grawnfwyd brecwast rhydd. Weithiau ychwanegir ffrwythau sych, fel rhesins a datys, a melysion fel siocled.
Defnyddir granola yn aml, yn enwedig os yw'n cynnwys hadau llin, i wella treuliad. Yn aml, caiff granola ei fwyta ar y cyd ag iogwrt, mêl, ffrwythau ffres (fel bananas, mefus neu lus), llaeth neu fathau eraill o rawnfwyd.
Dyfeisiwyd Granula yn Dansville, Efrog Newydd, gan Dr James Caleb Jackson yn Sanitariwm Jackson ym 1863.[2] Roedd Sanitariwm Jackson yn sba iechyd amlwg a oedd yn gweithredu tan ddechrau'r 20g ar ochr y bryn yn edrych dros Dansville. Fe'i gelwid hefyd yn Our Home on the Hillside; felly roedd y cwmni a ffurfiwyd i werthu grawnfwyd Jackson yn cael ei adnabod fel Our Home Granula Company. Roedd Granula wedi'i wneud o flawd Graham (math o blawd bras wedi'i falu) ac roedd yn debyg i fath o Grape-Nuts (brand grawnfrwyd brecwast a wnaed o flawd, halen, a burum sych). Datblygwyd grawnfwyd tebyg gan John Harvey Kellogg. Fe'i gelwid hefyd yn 'Granula' i ddechrau, ond newidiwyd yr enw i 'Granola' i osgoi problemau cyfreithiol gyda Jackson.[3]

Bwytir granola hefyd ar ffurf bar byrbryd, fel y bwytir bar siocled. Mae'n boblogaidd gyda phobl sy'n ymgymrd â gweithgaredd awyr agored megis hela, pysgota, heicio, gwersylla, neu gerdded. Mae'n hwylus gan ei fod yn ysgafn, yn uchel mewn calorïau, yn barod i'w fwyta, ac yn hawdd i'w storio. Mae gweithgynhyrchwyr hefyd yn ychwanegu mêl ychwanegol, surop corn, neu surop masarn ato ac yn ei gywasgu'n fariau granola, sy'n hawdd i'w cario ar gyfer pecyn cinio, heicio, neu weithgareddau awyr agored eraill. Daeth bariau granola (neu fariau mwseli) yn boblogaidd yn y 1960au[4] fel bar byrbrydau, yn debyg i'r cacen flapjack draddodiadol. Mae bariau granola yn cynnwys granola wedi'i gymysgu â mêl neu surop melys arall, wedi'i wasgu a'i bobi i siâp bar, gan arwain at gynhyrchu byrbryd mwy cyfleus.[5]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.