Geirfa filwrol

A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y

A

Aide-de-camp
Term Ffrangeg sydd yn cyfeirio at gynorthwywr swyddog, neu gadweinydd. Fel arfer, yn y fyddin, byddai swyddog o reng capten yn gwasanaethu cadfridog fel aide-de-camp ar faes y gad.[1]
AWOL
Acronym Saesneg sydd yn golygu "absennol heb ganiatâd" (absent without leave).
Awyrfilwr
Milwr a hyfforddir i barasiwtio.
Awyrlu
Y gangen o'r lluoedd arfog sydd yn ymladd yn yr awyr.

B

Batmon, batwas
Yn hanesyddol, milwr neu awyrluyddwr a benodwyd yn was personol i swyddog â chomisiwn yn y Fyddin Brydeinig neu'r Awyrlu Brenhinol.
Biled
Llety dros dro ar gyfer milwyr. Yn hanesyddol, trigfan sifilaidd a orchmynnwyd i'w defnyddio i luestu milwyr.
Blocâd
Ymgais i dorri cyflenwad bwyd, adnoddau rhyfela, neu gyfathrebu rhag ardal benodol, a hynny gan ddefnyddio grym ar y môr.
Blocdy
Mân-amddiffynfa, neu adeilad amddiffynnol syml, fel arfer gydag agennau er mwyn i'w amddiffynwyr saethu at y gelyn o sawl cyfeiriad.
Byddin
Y gangen o'r lluoedd arfog sydd yn ymladd ar y tir.
Byddino
Trefnu a pharatoi lluoedd milwrol cenedlaethol ar gyfer gwasanaeth milwrol mewn rhyfel.

C

Caci
Lliw brown golau gydag arlliw gwyrdd neu felyn a ddefnyddir ar gyfer gwisgoedd y fyddin a chuddliw cerbydau milwrol.
Cadoediad
Cytundeb rhwng dwy neu ragor o wledydd neu bleidiau i atal rhyfel.
Cyfrif cyrff
Nifer y gelyn a laddwyd mewn brwydr neu gyrch penodol.
Cyrchfilwr
Milwr neu fôr-filwr elît neu yn y lluoedd arbennig a hyfforddir mewn tactegau afreolaidd neu herwfilwrol, yn enwedig dwyn cyrchoedd ar y gelyn.
Cyrchlu
Uned o gyrchfilwyr.

D

Difrod ystlysol
Difrod anfwriadol neu ddamweiniol yw difrod ystlysol. Defnyddir y term yn bennaf fel gair teg am farwolaethau sifiliaid o ganlyniad i weithred milwrol.
Dragŵn
Milwr hanesyddol, a frwydrai ar draws Ewrop yn yr 17g a'r 18g, a oedd yn cyfuno sgiliau'r troedfilwr a'r marchfilwr. Ymladdai'r dragŵn fel marchfilwr ysgafn pan yn ymosod, a byddai'n disgyn oddi ar gefn ei geffyl pan yn amddiffyn.

E

Esielon
Trefniant tactegol sydd yn gosod milwyr, cerbydau, neu awyrennau mewn rhesi cyfochrog, a phob un res yn hirach na'r rhes o'i blaen.[2]

Ff

Ffiwsilwr
  1. Troedfilwr hanesyddol gyda mwsged ysgafn o'r enw ffiwsil.
  2. Enw ar droedfilwr mewn catrawd o grenadwyr.

G

Gorfodaeth filwrol
Ymrestriad gorfodol ar gyfer gwasanaeth milwrol.
Grenadwr
Troedfilwr elît sydd yn taflu grenadau, a oedd yn gyffredin mewn byddinoedd Ewrop yn yr 17g a'r 18g.
Gwaharddiad hedfan
Atal awyrennau rhag hedfan dros diriogaeth benodol.
Gwarchae
Amgylchynu tref, caer neu amddiffynfa arall gan luoedd milwrol fel ag i rwystro lluniaeth rhag mynd i mewn iddi er mwyn ei darostwng.
Gwaywr
Marchfilwr hanesyddol gyda gwaywffon neu bicell hir.
Gynnwr
  1. Magnelwr; milwr mewn catrawd magnelau.
  2. Swyddog gwarant neu uwch-swyddog digomisiwn sydd yn ben ar fagnelfa ar long ryfel.[3]

H

Hurfilwr
Milwr proffesiynol sydd yn gwasanaethu mewn llu arfog gwlad estron am gyflog.
Hwsâr
Marchfilwr ysgafn a ddefnyddiwyd yn hanesyddol yn Ewrop i sgowtio.
Hyfforddiant sylfaenol
Cyfnod o hyfforddiant milwrol ar gyfer recriwtiaid newydd.

M

Magnel
  1. Yn hanesyddol, math o gatapwlt a ddefnyddid i hyrddio cerrig yn erbyn muriau castell neu at luoedd y gelyn.
  2. Gwn mawr; canon.
Magnelaeth, magnelau
  1. Enw cyffredin ar gynnau, taflegrau, ac arfau gwrthawyrennol o galibr mawr, yn fwy na'r mân-arfau.
  2. Y rhan o'r fyddin sydd yn defnyddio'r arfau hyn.
Magnelwr
Milwr sydd yn gwasanaethu mewn catrawd magnelau.
Marchfilwr
  1. Milwr hanesyddol ar gefn ceffyl.
  2. Milwr modern sydd yn rhan o gatrawd o danciau, hofrenyddion, neu luoedd rhagchwilio arfogedig eraill.
Matériel
Term Ffrangeg sydd yn cyfeirio at gyfarpar, adnoddau, a chyflenwadau milwrol.
Môr-filwr
Aelod o lu milwrol sydd yn ymladd ar y tir ac ar y môr.
Morlu
  1. Uned o fôr-filwyr.
  2. Llynges.

Ll

Llam llyffant
Tacteg gan droedfilwyr er mwyn symud lluoedd tuag at gyrchfan a amddiffynnir gan y gelyn.
Llynges
Y gangen o'r lluoedd arfog sydd yn ymladd ar y môr.

S

Saethu cyfeillgar
Gweithred milwrol sydd yn lladd neu anafu milwyr ar yr un ochr â'r milwyr sydd yn saethu, a hynny yn anfwriadol,

T

Troedfilwr
Milwr sydd yn gorymdeithio ac sydd yn ymladd ar droed.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Richard Bowyer, Dictionary of Military Terms, 3ydd argraffiad (Llundain: Bloomsbury, 2004), t. 7.
  2. Bowyer, Dictionary of Military Terms (2004), t. 83.
  3. Bowyer, Dictionary of Military Terms (2004), t. 113.

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!