Trefnu a pharatoi lluoedd milwrol cenedlaethol ar gyfer gwasanaeth milwrol mewn rhyfel yw byddino. Gall byddino gynnwys gorfodaeth filwrol neu alw ar y lluoedd wrth gefn. Yn sgil datblygiad arfau niwclear yn yr 20g, daeth yn fwyfwy pwysig i wladwriaethau cynnal lluoedd arfog parhaol i allu byddino mor sydyn â phosib.[1]
Cyfeiriadau