Geirfa cudd-wybodaeth
C
- Crynodeb cudd-wybodaeth
- Cynnyrch cudd-wybodaeth filwrol ar ffurf adroddiad syml o fanylion y gelyn, gan gynnwys ei leoliad, nerth, trefniant, ac amcanion, ar gyfer cyfnod penodol o amser.
- Cylchred cudd-wybodaeth
- Cysyniad sydd yn disgrifio cylchred prosesu cudd-wybodaeth drwy gamau pennu gofynion, casglu, prosesu, dadansoddi, a phenderfynu.
D
- Dadansoddi cudd-wybodaeth
- Y broses o ddadansoddi gwybodaeth o bwys strategol, ymgyrchol, neu dactegol.
G
- Gweithredu cudd
- Gweithgareddau sydd yn rhoi pwysau ar lywodraeth dramor heb i'r llywodraeth honno wybod ffynhonnell y pwysau; propaganda, parafilwriaeth, rhyfela gwybodaeth, a ballu.
- Gwrth-ysbïwriaeth
- Amddiffyn medrau cudd-wybodaeth y wladwriaeth rhag gweithgareddau cudd-wybodaeth y gelyn.
Y
- Ysbïo, ysbïwriaeth
- Casglu cudd-wybodaeth heb ganiatâd perchennog y wybodaeth.
Cyfeiriadau
|
|