Aderyn mytholegol, yn wreiddiol o fytholeg y Ffenicsiaid, yw'r ffenics (Hen Roeg: Φοῖνιξ). Fe'i ceir ym mytholeg yr Hen Aifft fel y "Bennu", ac ym mythol
| Enghraifft o: | creadur chwedlonol |
|---|---|
| Math | legendary bird, legendary progenitor |
| Rhan o | mytholeg Roeg, mytholeg Rufeinig, mytholeg Arabaidd, mytholeg Persiaidd |
| Gwladwriaeth | Groeg yr Henfyd |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0d36f |
| Thesawrws y BNCF | 12021 |

Aderyn mytholegol, yn wreiddiol o fytholeg y Ffenicsiaid, yw'r ffenics (Hen Roeg: Φοῖνιξ). Fe'i ceir ym mytholeg yr Hen Aifft fel y "Bennu", ac ym mytholeg Roeg a Rhufeinig hefyd.
Dywedir ei fod yn aderyn gyda phlu aur a choch sy'n byw am fil o flynyddoedd, yna pan mae'n teimlo diwedd ei oes yn agosáu, mae'n adeiladu nyth ac yn ei roi ar dân. Llosgir yr aderyn yn y nyth, ond o'r lludw mae ffenics newydd yn codi. Cred rhai mai'r fflamingo a roddodd gychwyn i'r chwedl. Defnyddir "ffenics" hefyd am yr aderyn fenghuang ym mytholeg Tsieina.
Daeth yr aderyn yn boblogaidd gyda'r Cristionogion cynnar fel symbol o atgyfodiad, ac mae'n boblogaidd mewn nifer o wledydd fel symbol i gyfleu syniad tebyg. Enwyd dinas Phoenix yn Arizona yn yr Unol Daleithiau ar ei ôl.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.