Esclys

Cymuned ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yw Esclys (neu Esclusham).[1] Saif i'r de-orllewin o ddinas Wrecsam, ac mae'n cynnwys pentrefi 'r Bers a Rhostyllen

Esclys
Esclys
Mathcymuned Edit this on Wikidata
LL-Q9309 (cym)-Jason.nlw-Esclus.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,515, 3,544, 3,401 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,658.07 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0338°N 3.0669°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000225 Edit this on Wikidata
Etholaeth y DUSteve Witherden (Llafur)
Map
Mynydd Esclus, Esclus

Cymuned ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yw Esclys (neu Esclusham).[1] Saif i'r de-orllewin o ddinas Wrecsam, ac mae'n cynnwys pentrefi 'r Bers a Rhostyllen. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 3,401.

Ardal lofaol oedd rhan o'r gymuned, a saif hen lofa'r Bers ger Rhostyllen. Mae'r gymuned yn cynnwys Croes Foel, lle'r oedd gefail y gofaint enwog, y brodyr Davies. Ceir Amlosgfa Wrecsam yn y gymuned, ar safle hen Neuadd Pentrebychan, sydd wedi ei dymchwel. Dymchwelwyd Plas Cadwgan, oedd yn dyddio o'r 14g, hefyd, a Plas Gronw, hen gartref Elihu Yale. Ceir rhan o Glawdd Offa yn y gymuned.

Pwynt uchaf y gymuned yw Mynydd Esclus, sy'n rhan o Waun Rhiwabon.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Esclusham (pob oed) (3,515)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Esclusham) (470)
  
13.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Esclusham) (2681)
  
76.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Esclusham) (474)
  
32.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

  1. Defnyddir sillafiad Comisiwn Ffiniau Cymru 2024; fodd bynnag, mae'r canlynol yn defnyddio'r fersiwn Saesneg: Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008; tud 549
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.