Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Y Waun[1] (Saesneg: Chirk).[2] Saif ar y ffin â Lloegr. Mae'n enwog fel lleoliad Castell y Waun.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Simon Baynes (Ceidwadwyr).[3][4]
Hanes
Roedd yr hen blwyf yn cynnwys y trefgorddau Y Waun, Bryncunallt, Gwernospin, Halchdyn a Phenyclawdd.
Rhwng 1282 a'r 1540au, Y Waun oedd prif ganolfan arglwyddiaeth Swydd y Waun, a oedd yn cynnwys hen gymydau Cynllaith, Mochnant Is Rhaeadr, a Nanheudwy. Daeth Y Waun yn rhan o'r hen Sir Ddinbych yn y 1540au, ac arosodd yn y sir honno tan 1974. Roedd yng Nghlwyd rhwng 1974 a 1996, ac mae ym mwrdeistref sirol Wrecsam ers 1996.
Mae priffordd yr A5, un o ffyrdd Thomas Telford, yn mynd trwy'r Waun. Hefyd, mae Dyfrbont y Waun yn cario Camlas Undeb Swydd Amwythig dros Afon Ceiriog.
Cyrhaeddodd y rheilffordd y dref yn 1884, yn cysylltu'r Waun ag Amwythig a Chaer.
Fe adeiladwyd y bont rheilffordd yn uwch na'r draphont, oherwydd y cydymgais rhwng y rheilffyrdd a'r camlesydd.
Tan y 1960au, roedd Y Waun yn dref lofaol gyda'r mwyafrif o'r pentrefwyr yn gweithio mewn pyllau glo lleol fel Parc Du, Bryncunallt ac Ifton (dros y ffin yn Llanfarthin).
Mae gorsaf yna ar y llinell Amwythig i Gaer.
-
Eglwys Santes Fair
-
-
Camlas a Rheilffordd - yn edrych tua'r lan Gymreig.
-
Eglwys y Santes Fair
-
Beddrod teulu'r Myddletons yn Eglwys y Santes Fair
-
Tu fewn i'r eglwys
-
Cerflun o'r Oesoedd Canol o ferch yn dal calon
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Y Waun (pob oed) (4,468) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Waun) (461) |
|
10.7% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Waun) (2934) |
|
65.7% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Y Waun) (678) |
|
35.1% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Enwogion
Cyfeiriadau
Dolen allanol