Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Bronington[1][2] ( ynganiad ). Saif ar ochr ddwyreiniol afon Dyfrdwy ym Maelor Saesneg, yn agos i'r ffin a Lloegr. Roedd y boblogaqeth yn 2001 yn 1,228.
Dyddia'r eglwys o 1836; cyn hynny roedd yr adeilad yn ysgubor degwm. I'r de-ddwyrain o'r pentref, mae Plas Iscoyd, a adeiladwyd tua 1740 a'i ymestyn yn y 19g. I'r de o'r pentref, mae Fenn's Moss, ardal o fawnog sy'n ymestyn tros y ffin i Swydd Amwythig. Mae'n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Mawnogydd Fenn’s, Whixall a Bettisfield.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Andrew Ranger (Llafur).[3][4]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Bronington (pob oed) (1,242) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bronington) (110) |
|
9.1% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bronington) (395) |
|
31.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Bronington) (143) |
|
29.1% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau