Saif Eglwys Sant Cynllo uwch pentref Llanbister, Powys ac mae corff yr eglwys yn perthyn i gychwyn y 14g. Mae ei mynwent yn grwn ac felly'n mynd yn ôl i'r Eglwys Geltaidd, ond ychwanegwyd y tŵr hynod yn y 15g.[1]
Adnewyddu
Adnewyddwyd yr eglwys yn 1752, pan adferwyd rhan ucha'r clochdy sgwâr. Yn 1908 gwnaed cryn dipyn o waith gan y pensaeri W. D. Caroe a H. Passmore, pan ailgodwyd rhan o fur deheuol yr eglwys, ychwanegwyd cyntedd a gwnaed bedyddle. Gwnaed y gwaith gan yr adeiladwyr Collins & Godfrey o Tewkesbury.