Efwr

Planhigyn blodeuol ydy Efwr sy'n enw gwrywaidd (hefyd: Bras Gawl, Cecsen, Cron, Efwr Cyffredin, Efyrllys, Ewr, Moron y Meirch, Moron y Moch, Moronen y Meirch, P

Efwr
Heracleum sphondylium
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Apiales
Teulu: Apiaceae
Genws: Heracleum
Rhywogaeth: H. sphondylium
Enw deuenwol
Heracleum sphondylium
Carl Linnaeus
Cyfystyron
  • Heracleum alpinum subsp. benearnense Rouy & E.G.Camus

Planhigyn blodeuol ydy Efwr sy'n enw gwrywaidd (hefyd: Bras Gawl, Cecsen, Cron, Efwr Cyffredin, Efyrllys, Ewr, Moron y Meirch, Moron y Moch, Moronen y Meirch, Panasen y Cawr, Pannas Gwyllt a Phannas y fuwch). Mae'n perthyn i'r teulu Apiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Heracleum sphondylium a'r enw Saesneg yw Hogweed. Mae'n frodorol i Ewrop ac Asia.

Mae'r dail gyferbyn a'i gilydd ac mae gan y blodyn 5 petal.

Llafar

  • Yr “Ewr”
Wrth sgwrsio efo'm cyfaill Tudur Pritchard yn ddiweddar (31 Awst 2012) digwyddodd Tudur son am chwarae yn ystod ei blentyndod ym Mhenmynydd, Môn efo'r "ewr". Dywedodd hyn yn hollol naturiol fel petai o wedi dod yn syth o dafod lleferydd yr ardal. Wrth drafod ymhellach daeth yn amlwg mai "efwr" oedd ganddo.[1].
Ar ôl ei holi ymhellach, atebodd Tudur “Magwyd fi ar fferm ynghanol Ynys Môn, ac fel plant yr oeddym yn chwarae yn y coed a amgylchynnai’r ffermdy. Yr oedd un llwyn o goed fel petaent wedi eu plannu yn ddiweddar (dyweder eu bod yn 25 mlwydd oed yr amser hynny), a hynny yr ochr orllewinol i’r prif goedlan. Golyga hyn, wrth gwrs ei fod yn gysgod, ac yn nanedd y gwynt de orllewinol sydd yn ysgubo ar draws yr ynys. O’tanynt yr oedd trwch o ewr yn tyfu, a hwnnw yn ardderchog i ni fel plant chware ynddo a chuddio, ei dorri i wneud pastwn (a barai ychydig funudau gan ei fod mor wan). Yr oeddem hefyd yn ei dynnu o’r gwraidd, ac yn gweld caratsen o’tanno, gan ddysgu ei fod yn perthyn i’r carots cyffredin”.[2].

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. "Duncan Brown ym Mwletin Llên Natur rhifyn 56" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-03-21. Cyrchwyd 2019-01-29.
  2. "Tudur Pritchard ym Mwletin Llên Natur rhifyn 56" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-03-21. Cyrchwyd 2019-01-29.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.