Effesus

Hen ddinas Rufeinig a thref bresennol yn ne-orllewin Twrci yw Effesus (neu Ephesus neu Ephessos).

Effesus
Effesus
Mathsettlement site, safle archaeolegol Groeg yr Henfyd, polis Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolEphesus Edit this on Wikidata
GwladTwrci, Yr Ymerodraeth Achaemenaidd, yr Ymerodraeth Rufeinig, yr Ymerodraeth Fysantaidd, yr Ymerodraeth Otomanaidd, Ymerodraeth Seleucaidd, Ptolemaic Kingdom, teyrnas Pergamon, Ymerodraeth Seleucaidd, yr Ymerodraeth Fysantaidd, Seljuk Empire, Gweriniaeth Rhufain, Twrci Edit this on Wikidata
Arwynebedd614.76 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.93972°N 27.34861°E, 37.939722°N 27.340833°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethrhan o Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganAndroclus Edit this on Wikidata
Manylion

Hen ddinas Rufeinig a thref bresennol yn ne-orllewin Twrci yw Effesus (neu Ephesus neu Ephessos).

Fe'i sefydlwyd gan y Groegiaid ar arfordir Ionia yn Asia Leiaf ac yn fuan daeth yn ddinas gyfoethog a flodeuai oherwydd ei safle manteisiol ar gyfer masnach. Roedd hi'n ganolfan grefyddol bwysig yn ogystal, yn arbennig ar gyfer cwlt y dduwies Artemis (Lladin: Diana); roedd Teml Artemis yn Effesus yn un o Saith Rhyfeddod yr Henfyd. Ganwyd yr athronydd Heracleitos yn y ddinas tua 500 CC.

Cipiwyd y ddinas gan y brenin Croesus o Lydia yn y flwyddyn 550 CC. Parahaodd Effesus i ffynnu dan Alecsander Fawr o Facedon a'r Ymerodraeth Bersiaidd. Erbyn i'r Rhufeiniaid ei hymgorffori yn eu hymerodraeth dim ond Alecsandria yn yr Aifft oedd yn medru cystadlu ag Effesus fel canolfan fasnach.

Tua diwedd hanner cyntaf 1g OC ymwelodd Sant Paul ag Effesus. Un o lyfrau'r Testament Newydd yn y Beibl yw Llythyr Paul at yr Effesiaid.

Cafodd ei difrodi gan y Gothiaid yn OC 262 a dirywio fu ei hanes wedi hynny.

Yn y bryniau gerllaw'r ddinas mae Tŷ'r Forwyn Fair yn sefyll; dywedir iddi dreulio ei dyddiau olaf yn Effesus. Yn ôl traddodiad bu farw Sant Ioan yn y ddinas hefyd.

Amffitheatr Effesus
Nymphaeum Trajan yn Effesus

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.