Diglosia

Mewn ieithyddiaeth mae diglosia yn derm ar gyfer y defnydd o ddwy iaith (neu ddau fersiwn o’r un iaith) o fewn yr un gymuned - ac mynd o'r naill i'r llall yn

Diglosia
Diglosia
Mathdwyieithrwydd Edit this on Wikidata
Olynwyd gantriglossia Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01_h6v edit this on wikidata
QuoraDiglossia edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mewn ieithyddiaeth mae diglosia yn derm ar gyfer y defnydd o ddwy iaith (neu ddau fersiwn o’r un iaith) o fewn yr un gymuned - ac mynd o'r naill i'r llall yn ôl y sefyllfa.

Mewn llawer o enghreifftiau o ddiglosia mae siaradwr yn newid o iaith lafar pob dydd i fath arall o iaith ar gyfer sefyllfaoedd mwy ffurfiol.

Yr Iaith 'H' a’r iaith 'L'

Mae’r iaith lafar pob dydd yn cael ei dynodi fel yr iaith "L" (o’r gair Saesneg "low"). Fel arfer mae’r iaith "L" yn cael ei defnyddio yn y cartref ac ymhlith cymdogion, cyd-weithwyr etc.

Mae’r iaith "H" (o’r Saesneg "high") yn cael ei defnyddio mewn sefyllfaoedd mwy ffurfiol fel addysg, ysgrifennu neu ddelio gydag awdurdodau a phobl mewn awdurdod.

Mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio Cymraeg llafar yn eu tafodiaith leol ymhlith ei gilydd fel yr iaith "L" gan newid i Saesneg neu Gymraeg Llenyddol fel yr iaith "H" ar gyfer ysgrifennu a darllen.

Mae diglosia hefyd yn bodoli'n helaeth o amgylch y byd. Er enghraifft, fel arfer mae pobl Tsieina yn siarad eu tafodiaith leol fel yr iaith "L" gan newid i'r iaith "H" - Mandarin ar gyfer llythrennedd.

Siarad yn Wyn

Barack Obama

Mae diglosia/newid cod wedi dod yn bwnc dadleuol yn yr Unol Dalaithau ymhlith bobl o dras Affro-Americaniadd. Maent yn teimlo o dan bwysau i newid eu ffordd arferol o siarad wrth ddeilio gyda phobl gwyn.

Mae'r ffilm 2018 Sorry to Bother You yn gomedi am ddyn du sydd yn gweithio mewn canolfan galwadau ac yn 'siarad yn wyn' er mwyn llwyddo ein ei waith. [1]

Roedd Barack Obama yn aml yn dangos ei allu i newid ei ffordd o gyfathrebu yn seiliedig ar y gymuned roedd yn ymweld â hi. Mewn un esiampl adnabyddus mae Obama yn llongyfarch aelodau tîm pêl-fasged gan ysgwyd llaw ac yn siarad yn barchus gyda'r hyfforddwr gwyn ond yn siarad yn fwy anffurfiol ac yn cwtsio’r chwaraewyr du. [2]

Gweler hefyd

Ffynonellau

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.