Mewn ieithyddiaeth mae Newid cod (hefyd: 'gymysgu cod' a 'chymysgu iaith') yn digwydd pan mae person yn defnyddio dwy (neu ragor) o ieithoedd neu ffyrdd o siara
| Math | newid |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01hv_l |
| Quora | Code-switching |
Mewn ieithyddiaeth mae Newid cod (hefyd: 'gymysgu cod' a 'chymysgu iaith') yn digwydd pan mae person yn defnyddio dwy (neu ragor) o ieithoedd neu ffyrdd o siarad gyda'i gilydd yn yr un sgwrs. (Gweler hefyd: Diglosia - sef newid o'r naill iaith i'r llall yn ôl y sefyllfa).
Mae 'cod' yn derm ieithyddol ar gyfer iaith.
Mae newid cod yn beth normal ac nid yw'n arwydd o ddryswch.
Mae newid cod yn bodoli'n helaeth o amgylch y byd. Er enghraifft, mae pobl yn wreiddiol o Dde America sydd bellach yn byw yn yr Unol Daleithiau yn defnyddio Sbaeneg a Saesneg gyda'i gilydd. Mae pobl India hefyd yn defnyddio ieithoedd fel Hindi a Punjabi gyda Saesneg.
Yn yr un modd mae newid cod yn gyffredin iawn ymhlith siaradwyr Cymraeg.
Cofia cau'r curtains pan ti'n mynd i'r bathroom
neu
Duw, no way! Mae'r holiday insurance yn three hundred pounds!
Mae newid cod / digolsia wedi dod yn bwnc trafod yn yr Unol Dalaithau ymhlith bobl o dras Affro-Americaniadd. Maent yn teimlo o dan bwysau i 'siarad yn wyn' gan newid eu ffordd arferol o siarad wrth ddeilio gyda phobl gwynion. [1]
https://educationalresearchtechniques.com/2017/10/06/code-switching-lexical-borrowing/
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.