Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg
Diddymu caethwasiaeth oedd y mudiad i ddod â chaethwasiaeth i ben. Gellir defnyddio'r term hwn yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Yng ngorllewin Ewrop ac America, roedd diddymu caethwasiaeth yn fudiad hanesyddol a geisiodd ddod â masnach gaethweision yr Iwerydd i ben a rhyddhau pob caethwas. Bu'r ymgyrch i ddiddymu caethwasiaeth yn hir ac anodd, gydag unigolion, mudiadau a sefydliadau yn UDA a Phrydain yn gorfod brwydro’n galed i ddileu caethwasiaeth a sicrhau rhyddid i’r caethweision. Ymgyrchwyd, ysgrifennwyd llenyddiaeth, cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus, cyflwynwyd deisebau ac apeliwyd i’r Senedd er mwyn cael gwared ar y gyfundrefn a oedd wedi achosi cymaint o ddioddefaint. Daeth Rhyfel Cartref America rhwng 1861 a 65 yn rhyfel yn erbyn caethwasiaeth. Yn UDA, roedd unigolion fel William Garrison yn ymgyrchwyr adnabyddus, ac ym Mhrydain roedd Granville Sharp, Thomas Clarkson a William Wilberforce ymhlith arweinyddion yr ymgyrch.
Diddymwyr blaenllaw yn America
Erbyn dechrau’r 19eg ganrif sefydlwyd cymdeithasau gwrthgaethwasiaeth yn America. Ymhlith y rhai cyntaf roedd y Gymdeithas Gwladychiad Americanaidd a sefydlwyd yn 1817. Bwriad y gymdeithas oedd dychwelyd caethweision oedd wedi eu rhyddhau i Affrica. Ym 1821, prynodd asiantau a oedd yn cynrychioli’r gymdeithas dir yng Ngorllewin Affrica er mwyn creu gwlad newydd. Yn 1822 aeth pobl dduon rhydd draw i ymsefydlu yno ac erbyn 1847 ildiodd y gymdeithas reolaeth i weriniaeth annibynnol Liberia. Erbyn 1860 dim ond 15,000 o ddynion duon oedd wedi ymfudo i Affrica - nifer bach iawn o’i gymharu â nifer y genedigaethau ymysg y caethweision.[1]
Roedd gwleidyddion blaenllaw yn UDA yn cefnogi'r Gymdeithas - yn eu plith, James Madison, James Monroe, Henry Clay a Daniel Webster. Gwelai rhai'r mudiad fel cyfle i ryddfreinio pobl dduon tra bod eraill yn gweld y gymdeithas fel ffordd o gadw caethwasiaeth drwy gael gwared ar y bobl dduon rhydd a allai fod yn anodd eu rheoli, ac a allai achosi problemau.
Yn 1832 sefydlodd William Lloyd Garrison a’i ddilynwyr Gymdeithas Gaethwasiaeth Lloegr Newydd a’r flwyddyn flaenorol yn 1831 roedd Garrison wedi dechrau cyhoeddi papur newydd gwrth-gaethwasiaeth o’r enw ‘The Liberator’, a ddefnyddiai i frwydro yn erbyn caethwasiaeth. Yn 1833 sefydlodd dau fasnachwr cyfoethog o Efrog Newydd, sef Arthur a Lewis Tappan, grŵp tebyg a elwid yn Gymdeithas Gwrthgaethwasiaeth America. Roedd y gymdeithas yn gobeithio manteisio ar y cyhoeddusrwydd a roddwyd i waith William Wilberforce ym Mhrydain a arweiniodd at y llywodraeth yn diddymu caethwasiaeth drwy’r Ymerodraeth Brydeinig ym 1833. Erbyn canol y 1840au, roedd gan y mudiad tua 1,300 o gymdeithasau lleol a chyfanswm aelodaeth o 250,000.
Daeth cefnogaeth i ddiddymu caethwasiaeth oddi wrth bobl oedd yn cael eu denu at fudiadau diwygio eraill. Tueddai Diddymwyr ddod o deuluoedd crefyddol. Ymhlith cefnogwyr cynharaf eraill y mudiadau Diddymu roedd Americaniaid Affricanaidd rhydd oedd yn byw yn nhaleithiau’r Gogledd. Un o’r rhai enwocaf oedd Frederick Douglass, a oedd wedi bod yn gaethwas ac a ddihangodd, ac wrth ddarlithio ac ysgrifennu enillodd ddigon o arian i brynu ei ryddid. Roedd yn un o brif arweinyddion pobl dduon America yn ystod y 1850au ac fe'i gwahoddwyd i siarad mewn cyfarfodydd yn aml.[2]
Ymhlith y Diddymwyr blaenllaw eraill roedd Charles Sumner, Seneddwr gwyn a wnaeth sawl araith gyhoeddus yn erbyn caethwasiaeth; Sojourner Truth, a oedd yn siaradwr crefyddol a oedd yn areithio mewn llawer o gyfarfodydd y Diddymwyr, ac a oedd ei hun yn gaethwas a oedd wedi ffoi.[3]
Un o weithiau llenyddol enwocaf y 19eg ganrif a roddodd ddisgrifiad o natur greulon caethwasiaeth oedd nofel Harriet Beecher, Uncle Tom’s Cabin, a gyhoeddwyd yn 1852 ac a fu’n hollbwysig o ran peri i’r cyhoedd sylweddoli pa mor erchyll yw caethwasiaeth.[4] Cafodd y nofel ddylanwad ar gefnogwyr Diddymu yng Nghymru ble cafodd ei chyhoeddi o dan y teitl Caban F’ewythr Twm a chyhoeddwyd tair fersiwn ohoni yn y Gymraeg.[5] Roedd gan yr awdures, Harriet Beecher Stowe, gysylltiadau teuluol â Chymru hefyd gan fod ei chyndeidiau wedi ymfudo o Landdewi Brefi, Tregaron i America.
Erbyn y 1840au roedd diddymu caethwasiaeth wedi troi'n destun gwleidyddol yn ogystal â bod yn ymgyrch i sicrhau cydraddoldeb. Gwelwyd gwleidyddiaeth fel yr unig ffordd o ddiniistrio caethwasiaeth, ond nid oedd y ddwy brif blaid yn America, sef y Chwigiaid a’r Democratiaid, yn fodlon dod yn rhan o’r drafodaeth. O ganlyniad, ffurfiodd rhai o’r diddymwyr yn y cyfnod hwn eu plaid eu hunain, sef y Blaid Rhyddid. Bu’r blaid newydd hon yn allweddol o ran sicrhau bod diddymu caethwasiaeth yn dod yn destun trafod yng ngwleidyddiaeth genedlaethol America. Yn y pen draw, arweiniodd hynny at ryfel cartref.[6]
Diddymwyr blaenllaw yng Nghymru
Yng Nghymru, un o gefnogwyr amlycaf y mudiad Diddymu oedd y radical Morgan John Rhys (1760-1804), o Lanbradach, Sir Forgannwg a gweinidog gyda’r Bedyddwyr.[7] Cefnogai ryddid yr unigolyn, ymgyrchai yn erbyn caethwasiaeth, a hyrwyddai rhyddid crefyddol a gwleidyddol wedi iddo gael ei ysgogi gan egwyddorion Rhyfel Annibyniaeth America a’r Chwyldro Ffrengig. Defnyddiodd ei allu i ysgrifennu fel cyfrwng i fynegi ei farn ar y materion yma gan gyhoeddi ei farn yn erbyn caethwasiaeth yn Y Cylch-grawn Cynmraeg, sef y cylchgrawn gwledidyddol cyntaf a gyhoeddwyd yn y Gymraeg ac a sefydlwyd gan Morgan John Rhys yn 1793.
Cyfieithiodd bamffled o’r Saesneg i’r Gymraeg o dan y teitl,’Dioddefiadau Miloedd lawer o Ddynion Duon mewn Caethiwed Truenus Yn Jamaica a Lleoedd eraill ble erfyniodd ar ei gyd-wladwyr i beidio a phrynu nwyddau fel siwgr a rym gan ei fod yn hyrwyddo parhad ffiaidd caethwasiaeth. Roedd y bamffled ymhlith y rhai cyntaf yn y Gymraeg a oedd yn dadlau yn erbyn y fasnach gaethwasiaeth.[8] Cyhoeddwyd rhagor o bamffledi ganddo yn erbyn y fasnach gaethwasiaeth wedi iddo ymfudo i America yn 1794 a bu un ohonynt, a gyhoeddwyd yn 1798, sef ‘Letters on Liberty and Slavery’, yn llenyddiaeth bwysig yn arfogaeth dadleuon y Diddymwyr i gael gwared ar gaethwasiaeth.[7]
Roedd Iolo Morgannwg (Edward Williams), un o gyfoedion radicalaidd Morgan John Rhys, yn cefnogi’r ymgyrch dros ddiddymu caethwasiaeth hefyd.
Dylanwad llenyddiaeth
Ysgrifennodd cyn-gaethweision weithiau llenyddol hefyd a oedd yn dystiolaeth bwerus i gryfhau’r ddadl dros ddiddymu caethwasiaeth. Ymhlith y rhai hynny roedd Ottobah Cugoano ac Olaudah Equiano. Roedd Cuguano, a anwyd tua 1757 yn Ghana, wedi bod yn gaethwas yn India’r Gorllewin cyn iddo ffoi i Loegr yn 1772.[9] Yn Lloegr daeth yn ddyn rhydd, ac yno ysgrifennodd lyfr yn amlinellu’r dadleuon dros ddiddymu caethwasiaeth, sef ‘Thoughts and Sentiments on the Evil and Wicked Traffic of the Human Species’, a gyhoeddwyd yn 1787. Cyflwynodd ddadleuon crefyddol, moesol ac ariannol dros gael gwared ar y gyfundrefn ffiaidd.[10]
Cyn-gaethwas arall, a oedd hefyd yn un o gyfoedion ac yn ffrind i Cuguano, ac yn gefnogwr blaengar ac adnabyddus i'r achos dros ddiddymu caethwasiaeth, oedd Olaudah Equiano. Ysgrifennodd hanes ei fywyd fel caethwas yn ei hunangofiant, “The Interesting Narrative of the Life of Olaudah Equiano; or, Gustavus Vassa, the African, Written by Himself’ a gyhoeddwyd yn 1789. Ganwyd ef yn Nigeria tua 1745, a chafodd ei gipio a’i werthu fel caethwas, a mynd draw i India’r Gorllewin cyn prynu ei ryddid yn 1766. Dechreuodd fywyd newydd draw yn Lloegr a daeth yn un o ymgyrchwyr mwyaf brwdfrydig y Mudiad Diddymu ym Mhrydain.[11]
Roedd eu tystiolaeth a’u profiadau nhw yn bwysig iawn o ran tynnu sylw’r cyhoedd at ddioddefaint y caethweision ac at ffieidd-dra'r system.
Ymerodraeth Prydain
Roedd ymgyrchwyr adnabyddus o blaid diddymu caethwasiaeth oddi mewn i Ymerodraeth Prydain, fel John Wesley, y pregethwr Methodistaidd, a Josiah Wedgwood, yn ogystal â grwpiau crefyddol, fel y Crynwyr. Defnyddiodd Wedgwood ei fuddiannau fel perchennog ffatrïoedd crochenwaith i gynhyrchu plac a ddaeth yn symbol pwerus i ddenu cyhoeddusrwydd yn erbyn caethwasiaeth.
Ymhlith y Diddymwyr eraill oedd yn siaradwyr huawdl ac yn ymgyrchwyr yn erbyn caethwasiaeth roedd Granville Sharp, Thomas Clarkson a William Wilberforce. Dadleuodd ac ysgrifennodd Sharp sawl gwaith dros hawliau caethweision - er enghraifft, achos Jonathan Strong (1767) a James Somerset (1772)[12] gan fynd â’u hachosion i’r llysoedd ac ennill yno. Llwyddwyd i sicrhau hawl James Somerset, sef caethwas o Virginia a gyrhaeddodd Lloegr, i gael bod yn rhydd unwaith y daeth i Brydain. Drwy hyn, enillodd caethweision eraill yn Lloegr yr hawl i fod yn rhydd.[13][14]
Cerrig milltir pwysig
Roedd Clarkson a Wilberforce yn ffrindiau ac yn aelodau pwysig o’r Mudiad Gwrth-gaethwasiaeth ym Mhrydain, mudiad a sefydlwyd ar ddiwedd y 18g.[15]
Casglai’r ddau wybodaeth fanwl am y fasnach gaethweision, y porthladdoedd oedd yn elwa, amodau byw'r caethweision ar yr hylciau mawr oedd yn eu cludo ar draws yr Iwerydd, cynlluniau a modelau o’r hylciau a hyd yn oed casglu offer a ddefnyddiwyd i gosbi caethweision. Wedyn, byddent yn cyflwyno'r wybodaeth honno gerbron y Senedd ar ran y mudiad. Cyflwynodd Wilberforce sawl mesur i geisio diddymu’r fasnach gaethweision, ac yn y diwedd pasiodd y Senedd ddeddf yn 1807 a oedd yn diddymu'r fasnach gaethweision, a oedd yn rhan o’r fasnach driongl ar draws Ymerodraeth Prydain. Golygai hyn ei bod yn anghyfreithlon prynu a gwerthu caethweision oddi mewn i'r ymerodraeth. Yn 1808 diddymwyd y fasnach gaethweision yn UDA ond parhaodd mewn llawer o’r taleithiau deheuol.[16]
Parhaodd y frwydr i ddiddymu caethwasiaeth wrth i wahanol fudiadau diddymu gynnal cyfarfodydd, cyhoeddi pamffledi a chyflwyno deisebau i’r Senedd. Olynwyd William Wilberforce, wedi iddo ymddeol o fywyd cyhoeddus yn 1825, gan Thomas Fowell Buxton fel prif ymgyrchydd y Gymdeithas dros Ddiddymu Caethwasiaeth ym Mhrydain. Er ei fod mewn iechyd gwael, gwyddai Wilberforce cyn iddo farw fod Llywodraeth Prydain wedi pasio Deddf Rhyddfreinio 1833 a oedd yn gwarantu bod caethweision oddi mewn i drefedigaethau'r Ymerodraeth Brydeinig yn rhydd. Rhoddai telerau’r ddeddf yr hawl i gyn-berchnogion caethweision oddi mewn i'r Ymerodraeth Brydeinig hawlio iawndal. Ni chafodd caethweision ym mhob rhan o’r Ymerodraeth eu rhyddhau (er enghraifft, yn Sri Lanca) a bu’n rhaid aros tan 1838 i gaethwasiaeth gael ei ddiddymu'n gyfan gwbl ym mhob rhan o’r Ymerodraeth.[17][18]
↑Cof Cenedl IX, Gol.Geraint H. Jenkins, ‘Cymro, Gelynol i bob Gorthrech’, Hywel M. Davies, tud. 71; E. Wyn James, ‘Morgan John Rhys a Chaethwasiaeth Americanaidd’, yn Canu Caeth: Y Cymry a’r Affro-Americaniaid, gol. Daniel G. Williams (Llandysul: Gwasg Gomer, 2010), tt.2-25.