Datganiad a fawbysiadwyd gan y Gyngres Gyfandirol ar 4 Gorffennaf 1776 oedd Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau (Saesneg: United States Declaration of Independence). Roedd yn egluro pam yr oedd Cyngres y 13eg talaith wedi pleidleisio ar 2 Gorffennaf i'w cyhoeddi eu hunain yn annibynnol oddi wrth Prydain Fawr. Dethlir 4 Gorffennaf, diwrnod mabwysiadu'r Datganiad, fel Diwrnod Annibyniaeth yr Unol Daleithiau.
Ysgrifennwyd y Datganiad yn bennaf gan Thomas Jefferson. Y rhan enwocaf yw'r rhagarweiniad:
We hold these truths to be self-evident, that all men are created equal, that they are endowed by their Creator with certain unalienable Rights, that among these are Life, Liberty and the pursuit of Happiness.
Dyma restr o enwau'r llofnodwyr wedi eu trefnu yn ôl talaith, fel y maent yn ymddangos yn y ddogfen wreiddiol; yr unig enw i beidio â chael ei gysylltu â thalaith yw John Hancock, a lofnododd fel llywydd y gyngres gyfandirol.[1]
New Hampshire
Massachusetts
Rhode Island
Connecticut
Efrog Newydd
New Jersey
Gogledd Carolina
Georgia
Pennsylvania
Delaware
Maryland
Virginia
De Carolina
Yn ôl Cymdeithas Gymreig Philadelphia roedd 16 o lofnodwyr y Datganiad o dras Gymreig, gan wneud Cymry y grŵp ethnig mwyaf o lofnodwyr[2]. Yr 16 yw:
George Clymer, Stephen Hopkins, Robert Morris, William Floyd, Francis Hopkinson, John Morton, Britton Gwinnett, Thomas Jefferson, John Penn, George Read, John Hewes, Francis Lewis, James Smith, Williams Hooper, Lewis Morris, a William Williams.[3]