Cynhaliwyd cystadleuaeth Cân i Gymru 2023 yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ar 3 Mawrth. Y cyflwynwyr oedd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris.
Roedd 104 o ymgeiswyr eleni a'r panel a ddewisodd y rhestr fer o 8 cân oedd Eädyth Crawford, Gwyneth Glyn, Arfon Wyn ac Ifan Davies (Sŵnami).[1]
Y gan fuddugol oedd "Patagonia".[2]