Mae cyrens yn rhesinen o'r teulu grawnwin bach, melys, di-had "Corinth Du" (Vitis vinifera).[1][2] Fe'i gelwir yn cyrens Zante, rhesins Corinth,
| Math | Rhesin |
|---|---|
| Deunydd | Black Corinth |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/019f1p |
Mae cyrens yn rhesinen o'r teulu grawnwin bach, melys, di-had "Corinth Du" (Vitis vinifera).[1][2] Fe'i gelwir yn cyrens Zante, rhesins Corinth, rhesins Corinthaidd neu yn amlach nag heb, "gyrens".
Daw'r enw o'r ymadrodd Eingl-Ffrangeg "raisins de Corinthe" (grawnwin dinas Corinth, yng Ngwlad Groeg)[3] ac ynys Zakynthos (Zante) ym môr Iona, a oedd ar un adeg yn brif gynhyrchydd ac allforiwr. Nid yw'n gysylltiedig â chyrens du, coch na gwyn, sef aeron llwyni yn y genws Ribes ac nad ydynt fel arfer yn cael eu paratoi ar ffurf sych.
Ceir y cofnod cynharaf o'r gair "cyrains" yn y Gymraeg mewn cerdd gan Lewis Glyn Cothi (1455-85); Rhessing, cwres [diwyg.] a censwn / Rhost, nid er bos, adar y bwn.[4]
Ceir dryswch rhwng y gwahaniaethau rhwng rhesin, syltana, a cyrens. O'i roi'n syml, mae rhesins, syltanas, a chyrens i gyd yn wahanol fathau o rawnwin sych. Fodd bynnag, gall deall y gwahaniaethau rhwng y tri fod yn ddryslyd, yn enwedig ar gyfer rhesins a syltanas gan fod eu diffiniadau'n amrywio mewn gwahanol rannau o'r byd. Yn yr Unol Daleithiau, defnyddir y term "raisin" i rhesins a'r syltanas. I wahaniaethu'r ddau, cyfeirir at syltanas fel rhesins "aur". Yn y rhan fwyaf o wledydd, gan gynnwys y DU, mae rhesins a swltanas yn cael eu gwahaniaethu yn ôl y math o rawnwin a'r dull prosesu a ddefnyddir.
Mae cyrens yn cael eu sychu am hyd at dair wythnos.
Oherwydd eu maint bach, mae ganddyn nhw flas melys, sur a dwys ac maen nhw'n ychwanegu gwead a melyster at seigiau melys a sawrus.[5]

Yn draddodiadol, caiff cyrens eu tynnu oddi ar y coesyn ac yna eu sychu yn y cysgod. Mae sychu ag aer wedi'i gynhesu hefyd yn gyffredin. Disgrifir y ffrwythau fel rhai bach, croen tenau, a heb hadau. Mae eu lliw yn amrywio o las-ddu i ddu. Maent yn cynnwys tua 77% o siwgr, 2.8% o brotein, ac 1.5% o asid ffrwythau. Fe'u defnyddir fel arfer wrth baratoi nwyddau wedi'u pobi, melysion, a phwdinau.
Yn wahanol i gyrens duon, nid yw cyrens Zante yn ffynhonnell sylweddol o fitamin C.[6]
Mae cyrains yn boblogaidd iawn mewn chacennau gan gynnwys cogyddiaeth Gymreig mewn danteithion. Gyda'r rhesin a'r syltana caent eu defnyddio'n fynych mewn wrth goginio Picau ar y Maen a Bara brith.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.