Sefydlwyd Cyngor Sir Gaerfyrddin cyntaf yn 1889 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888. Cynhaliwyd yr etholiadau cyntaf ym mis Ionawr 1889.[1]
Roedd pencadlys y cyngor yn Llanymddyfri nes iddo symud i Gaerfyrddin ym 1907. Dechreuwyd adeiladu Neuadd y Sir newydd ym 1939 ond, oherwydd y Rhyfel Byd, ni chafodd ei gwblhau tan 1955.[2]
Diddymwyd y cyngor sir o dan Deddf Llywodraeth Leol 1972 ar 1 Ebrill 1974, pan sefydlwyd Dyfed.[3] Sefydlwyd awdurdod unedol newydd yn Sir Gaerfyrddin yn ddiweddarach, o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 1996.[3]
Roedd y pwerau a’r cyfrifoldebau a drosglwyddwyd o’r sesiynau chwarter i’r cynghorau wedi’u rhifo yn y Ddeddf. Roedd y rhain yn cynnwys: