Roedd Cyngor Dosbarth Trefol Rhydaman yn awdurdod lleol yn rhan ganolog Sir Gaerfyrddin, Cymru a grëwyd yn 1903 dan Ddeddf Corfforaethau Dinesig 1835. Fe’i crëwyd yn benodol o ganlyniad i’r twf cyflym ym mhoblogaeth y dref o ganlyniad i ehangu maes glo Cymru.
Roedd Cyngor Dosbarth Trefol Rhydaman yn cynnwys pymtheg o gynghorwyr gan gynnwys cadeirydd ac, yn dilyn yr etholiad cychwynnol o bymtheg aelod, safodd traean o'r cyngor i lawr yn flynyddol. Roedd y cyngor, fel ardaloedd trefol eraill, yn gyfrifol am lanweithdra, carthffosiaeth, tai, strydoedd, mynwentydd, llyfrgelloedd, parciau, a thrwyddedu adloniant cyhoeddus. Gweinyddwyd y cyngor gan nifer o bwyllgorau a chan swyddogion gan gynnwys Clerc a Swyddog Meddygol Iechyd.
Diddymwyd yr awdurdod yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974, a chymerwyd ei rôl gan Gyngor Bwrdeistref Dinefwr.
Cyfeiriadau