Corn Celtaidd

Chwythbren hynafol a ddefnyddiwyd gan y Celtiaid yn ystod Oes yr Haearn rhwng tua 200 BC a AD 200 oedd y corn Celtaidd, neu'r catgorn (Saesneg: carnyx, ynganiad

Corn Celtaidd
Corn Celtaidd
Y Corn Celtaidd yn cael ei chwythu ar ddechrau gêm bêl-droed yng Nghaerdydd; Tachwedd 2024
MathOfferyn Celtaidd
Deunyddefydd Edit this on Wikidata
Dechreuwyd200 CC Edit this on Wikidata
Daeth i ben200 Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Corn Geltaidd a ddarganfuwyd yn Tintignac, Ffrainc

Chwythbren hynafol a ddefnyddiwyd gan y Celtiaid yn ystod Oes yr Haearn rhwng tua 200 BC a AD 200 oedd y corn Celtaidd, neu'r catgorn (Saesneg: carnyx, ynganiad:ˈkɑːrnɪks). Math o drymped a wnaed gydag efydd ydoedd, gyda siâp S hirgul. Yr oedd ganddo ben siâp baedd cegrwth neu anifail arall. Mae'r gair 'carynx' yn enw Groeg sydd hefyd yn deillio efallai o’r iaith Galateg sef iaith Geltaidd Anatolia.[1]

Hanes ac archaeoleg

Symbolaeth

Yn ynysoedd Prydain yn yr Oes Haearn, roedd symbolaeth anifeiliaid yn fodd o gyfleu naws ymosodol a ffyrnig, gydag enghreifftiau'n cynnwys baedd gwyllt ar darian Witham, corn Deasgard, yr Alban o faedd a phâr o gleddyfau gyda dreigiau arnynt o afon Tafwys.[2]

Y cyrn Celtaidd yn cael eu chwythu: rhan o Bair Gundestrup

Defnydd

Mae tystiolaeth i awgrymu y byddai'r Corn yn cael ei ddal gan bennaeth, fel y dangosir gan ffigwr Bituitos a oedd o bosib yn Frenin Galaidd.[3]

Archaeoleg

Roedd darnau arian a fathwyd gan y Rhufeiniaid yn dangos trympedi rhyfel y Celtiaid. Mae'r trympedi Celtaidd hyn yn annhebyg i utgyrn Rhufeinig, gan fod ganddynt "bennau angenfilod".[4]

Roedd y Corn Celtaidd neu Alaidd yn cael ei ddefnyddio gan y Celtiaid mewn ffordd debyg i'r ffordd roedd y Rhufeiniaid yn defnyddio baneri a bu enghreifftiau o'r Cyrn yn Rhufain mewn cofiant o frwydrau yn erbyn y Galiaid. Ceir enghraifft o gorn â phen y Ddraig ar waelod Colofn (Rhufeinig) Trajan.[5]

Disgrifiwyd y Corn gan rai'r un fath â thrymped Dacia. Mae tebygrwydd amlwg rhwng corn Celtaidd y Galiaid a baner draig Dacia La Tène a gemwaith gyda dreigiau a seirff.[6]

Corn Celtaidd yn Amgueddfa Montbéliard, Ffrainc

Mae dynes sy'n dal corn Celtaidd hefyd yn ymddangos ar fronblat yr ymerawdwr Awgwstws.[7]

Darganfuwyd corn Celtaidd efydd gyda phen baedd yn dyddio o'r Oes Haearn yn Suffolk, Lloegr yn 2021.[8]

Defnydd cyfoes

Gwneuthurwyr

Yn naturiol, bychan yw'r nifer y pobl sy'n cynhyrchu Corn Celtaidd yn gyfredol. Un ohonynt yw John Kenny, cerddor o'r Alban. Ceir eitem deledu amdano o Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant yn 2022. Mae'r offeryn ganddo wedi ei ail-greu o engrafiadau. Mae'n diwb hir sy'n gorffen gyda phen baedd.[9]

Tîm Pêl-droed Cymru

Yn gêm bêl-droed Cymru yn erbyn Gwlad yr Iâ ar 19 Tachwedd 2024, canwyd y Corn Celtaidd fel rhan o seremoni cychwyn y gêm.[10][1]

Crewyd y carnyx gan grefftwr yng Ngwlad Belg am swm o oddeutu £3,000 a arianwyd maes o'u gwirfodd gan chwaraewyr y tîm cenedlaethol. Roedd wedi gwneud o efydd ac yn 3.6 metr o uchder. Fersiwn o'r carynx a ddarganfuwyd yng ngogledd-ddwyrain Yr Alban, sef y 'carynx Deasgard' (Deskford carnyx), a ddefnyddiwyd yn y gêm bêl-droed.[1] Canwyd y corn gan Gas Man, aelod o fand prês y Barry Horns sy'n canu caneuon yn ystod gemau Cymru. Esboniodd bod "y perfformiad yn dipyn o gymysgfa o rai o anthemau gwladgarol cryfaf Cymru ... rythmau bach o Yma o Hyd yn ogystal ag ychydig o gorws anthem genedlaethol Cymru.” Nododd hefyd mor anodd oedd chwarae offeryn pres yn y tywydd oer y noson honno.[11]

Daeth y syniad am ganu'r offeryn ar ddechrau'r gêm gan y band pres y Barry Hornes sy'n chwarae caneuon poblogaidd yn ystod gemau Cymru. Cafwyd hefyd galwadau am y corn gan gefnogwyr cyffredin i'r perwyl hyn yn 2023. Ymddengys i'r Cymry cael eu hysbrydoli gan berfformiad o'r Corn Celtaidd yng Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant yn Llydaw yn 2023.[12]

Dolenni

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 "Y carnyx yn creu naws cyn gêm ac ar faes y gad". BBC Cymru Fyw. 20 Tachwedd 2024.
  2. Garrow, Duncan (2008-10-01). Rethinking Celtic Art (yn Saesneg). Oxbow Books. t. 65. ISBN 978-1-84217-318-3.
  3. Megaw, J. V. S. (1970). Art of the European Iron Age: A Study of the Elusive Image (yn Saesneg). Adams & Dart. t. 177. ISBN 978-0-239-00019-4.
  4. The Numismatic Chronicle, and Journal of the Numismatic Society (yn Saesneg). Tayor & Walton. 1865. t. 11.
  5. Kinnee, Lauren (2018-03-12). The Greek and Roman Trophy: From Battlefield Marker to Icon of Power (yn Saesneg). Routledge. ISBN 978-1-351-84657-8.
  6. Pârvan, Vasile (1928). Dacia: An Outline of the Early Civilizations of the Carpatho-Danubian Countries (yn Saesneg). CUP Archive.
  7. Penner, Todd C.; Stichele, Caroline Vander (2007). Mapping Gender in Ancient Religious Discourses (yn Saesneg). BRILL. ISBN 978-90-04-15447-6.
  8. "Rare Bardwell Iron Age trumpet sells for more than £4k". BBC News (yn Saesneg). 2021-12-03. Cyrchwyd 2023-02-07.
  9. "Le carnyx, un instrument de musique ancien présenté au festival interceltique" (yn Ffrangeg). INA.fr. 9 Awst 2002.
  10. "Watch: The incredible anthem and Carnyx at Wales match". Nation.Cymru. 19 Tachwedd 2024.
  11. "Why a huge horn was played before Wales v Iceland". BBC Wales online. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2024.
  12. "Terrifying Carnyx to be Sounded at Wales Clash with Iceland". Nation.Cymru. 18 Tachwedd 2024.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.